Fframwaith Dysgu Gweithredol
Hyblyg, hygyrch a chynwysol - y profiad myfyriwr sydd wrth wraidd ALF
Mae ein Fframwaith Dysgu Gweithredol yn cyfuno gwneud y defnydd gorau o'n mannau dysgu ar gampws gyda chynnwys dysgu ar-lein sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr y gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le.
Mae ALF yn ymgorffori ffyrdd o addysgu a dysgu sy'n creu ac yn cefnogi ymdeimlad o berthyn i fyfyrwyr. Crëwyd y fframwaith gan staff ar draws y brifysgol ac mae cyfres o hyrwyddwyr ALF sy'n arwain ac yn annog eu cydweithwyr.
Mae'n bwysig nodi hefyd, er bod y Gronfa wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig, fod hyn yn rhan o newid ehangach ym Mhrifysgol Glyndŵr yr oeddem eisoes yn gweithio tuag ato. Mae'n hyblyg, yn hygyrch ac yn gynhwysol - ac fel popeth a wnawn ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae'n rhoi ein profiad fel myfyriwr wrth ei wraidd.
Ein dulldysgu cyfunol
Mae ein Fframwaith Dysgu Gweithredol yn cyfuno gwneud y defnydd gorau o'n mannau dysgu ar gampws gyda chynnwys dysgu ar-lein sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr y gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le. Mae ALF yn ymgorffori ffyrdd o addysgu a dysgu sy'n creu ac yn cefnogi ymdeimlad o berthyn i fyfyrwyr.
Profiad myfyriwr PGW o ddysgu cyfunol
"Mae wedi agor llu o gyfleoedd. Rydym wedi cael darlithwyr yn gallu cyflwyno o'u stiwdios gartref, mae ffeiliau'n cael eu rhannu gymaint yn haws, ac rydym yn gallu cael grwpiau i'w trafod."