Yn amodol ar gyfrifoldeb cyffredinol Bwrdd y Llywodraethwyr a chyfrifoldebau’r Is-ganghellor, Bwrdd Academaidd y Brifysgol yw’r corff penderfynu gweithredol uchaf ar gyfer materion sy’n ymwneud â darpariaeth academaidd y Brifysgol. Y Bwrdd Academaidd sy’n gyfrifol am faterion cyffredinol yn ymwneud ag ymchwil, ysgoloriaethau, addysgu a chyrsiau yn y Brifysgol, gan gynnwys meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr; polisïau a gweithdrefnau ar gyfer asesu ac arholi perfformiad academaidd myfyrwyr; cynnwys y cwricwlwm; ansawdd a safonau academaidd a dilysu ac adolygu cyrsiau; y gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu cymwysterau.

Mae’r Bwrdd Academaidd hefyd yn gyfrifol am gynghori’r Is-ganghellor a Bwrdd y Llywodraethwyr ynghylch yr adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu a chefnogi gweithgareddau academaidd y Brifysgol.