Ein Cenhadaeth Ddinesig

Mae gan ein cenhadaeth ddinesig bobl a lle wrth ei chalon.

Beth yw ein cenhadaeth ddinesig wedi'i chyd-greu?

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles y cyhoedd ar draws Gogledd Cymru - Dysgu ac arwain gyda’n gilydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y system gyfan.

Rydym yn angerddol ac yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid a chymunedau mewn ffyrdd newydd – gan ddeall yr heriau allweddol a chyd-greu ein dull gweithredu ar draws Gogledd Cymru. Mae gan ein cenhadaeth ddinesig newydd bobl a lle wrth ei chalon.

Ynghyd â sgwrsio ag arweinwyr, rydym wedi nodi bod gwraidd llawer o heriau a blaenoriaethau gweithredu ein rhanbarth yn ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol a dyma'r hyn yr ydym am fynd i'r afael ag ef. Rydym am helpu i roi terfyn ar anghydraddoldeb cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru erbyn 2030.

Ein nod fel prifysgol yw bod yn ddefnyddiol ac arloesi, cyd-greu, profi a chyflwyno dulliau gweithredu newydd, gan alluogi gweithredu ar y cyd mewn tri maes blaenoriaeth:

Mae'r heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu yn newid yn gyson. Nid yw ein cenhadaeth ddinesig yn sefydlog a bydd ein sgyrsiau'n parhau i lywio ein hymagwedd a'n prosiectau. Fel prifysgol rydym am fod yn rym cadarnhaol dros newid.

I ddod o hyd i ragor, gweler ein Strategaeth Partneriaeth Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam2023 – 2028 ac Adroddiad Blynyddol Symudiad 2025.

Strategaeth partneriaeth ein Cenhadaeth Ddinesig

Roedd y strategaeth hon yn nodi'n fanwl ein dull gweithredu a'r prosiectau y byddwn yn eu datblygu a'u darparu ochr yn ochr â'n partneriaid. Ariennir ein gwaith cenhadaeth ddinesig gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Cenhadaeth ddinesig: Ymchwil sy'n Trawsnewid

Yn PGW, mae gennym strategaeth ymchwil uchelgeisiol lle'r ydym yn ceisio ymgymryd ag ymchwil sy'n trawsnewid. I gefnogi ein partneriaeth cenhadaeth ddinesig; hoffem ddatblygu ymchwil cymhwysol a gwybodaeth drwy ymholiad beirniadol, ymchwil cymhwysol a gwerthuso effaith i gyd-greu fframwaith ymchwil sy'n cefnogi ein cenhadaeth gyfunol.

Mae cyflawni'r genhadaeth ddinesig mewn partneriaeth yn rhoi cyfle cyffrous i ni ymgymryd ag ymchwil sy'n trawsnewid, cysylltu ein timau academaidd â'n partneriaid i weithio gyda'n gilydd ar brosiectau sy'n berthnasol o ran polisi a phrosiectau ymchwil cymhwysol, gan roi myfyrwyr mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, yn cynorthwyo i fod yn sail i addysgu, a chefnogi ein timau academaidd i ymgysylltu ag ymchwil gweithredol sy'n gysylltiedig â'r genhadaeth ddinesig.

I gael gwybod mwy am ein cenhadaeth ddinesig, cysylltwch â:

Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus

nina.ruddle@glyndwr.ac.uk

07809 538927