Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein harferion a'n gweithgareddau. Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol sydd heb wahaniaethu ar sail gwerthoedd urddas a pharch.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i EDI ac i gefnogi’r cymysgedd amrywiol o unigolion sy’n rhannu ein cymuned ddysgu. Yn unol â’n gwerthoedd o fod yn Hygyrch, Cefnogol, Arloesol ac Uchelgeisiol, rydym yn gweithio tuag at ein hamcan o ddarparu amgylchedd a fydd yn cefnogi ac yn galluogi pawb ac yn adlewyrchu hyn trwy ein dull cyfannol o weithio tuag at gynhwysiant.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ar sail oed, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth; gan gydnabod bod ein cymuned yn cael ei chyfoethogi gan ystod amrywiol o gefndiroedd, credoau a diwylliannau.

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn gallu dysgu, gweithio a defnyddio ein mannau cymdeithasol mewn amgylchedd cwbl gynhwysol, gan ddangos bod cydraddoldeb yn bwysig i'n cymuned gyfan. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod amgylchedd diogel, teg a chynhwysfawr i bawb ym Mhrifysgol Wrecsam. Rydym yn cydnabod yr heriau a wynebir gan ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n dioddef trais, camdriniaeth ac aflonyddu, a all ymddangos mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi, datblygu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol, mae’r Brifysgol yn gwrthwynebu pob ffurf o drais, camdriniaeth ac aflonyddu, ac mi fydd y fath achosion yn cael eu trin fel troseddau o ddisgyblaeth ac yn arwain, os yw’n briodol, at ddisgyblu.

Nod Prifysgol Wrecsam yw cynnig amgylchedd dysgu, gweithio a chymdeithasol lle parchir hawliau ac urddas pawb bob amser, gan fabwysiadu dull dim goddefgarwch tuag at drais, camdriniaeth ac aflonyddu o bob math, gyda pholisïau a gweithdrefnau perthnasol i gefnogi’r ymrwymiad hwn.

Mae ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer staff a myfyrwyr yn berthnasol i gymuned gyfan y Brifysgol.

Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i Staff a Myfyrwyr.

Adroddiad blynyddol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - 2022-2023

Adroddiad blynyddol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - 2021-2022

Data Myfyrwyr ym Prifysgol Glyndwr Wrecsam 2021-2022

Staff Data at Prifysgol Glyndwr Wrecsam 2021 - 2022

Data Myfyrwyr ym Prifysgol Glyndwr Wrecsam - 2020 - 2021

Staff Data at Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - 2020 - 2021

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.

Dylai aelodau staff gysylltu ag Ali Bloomfield ar 01978 293307 neu drwy e-bost  alison.bloomfield@glyndwr.ac.uk Dylai myfyrwyr gysylltu â'n Hundeb y Myfyrwyr drwy e-bost equaloppsofficer@mail.glyndwr.ac.uk

Os oes angen unrhyw ran o'r wybodaeth ar y dudalen hon mewn ffurf arall, e.e. Braille, Trawsysgrifiadau Sain, ayb. cysylltwch ag Ali Bloomfield ar 01978 293307 neu alison.bloomfield@glyndwr.ac.uk 

Adroddiadau Cydraddoldeb

Adroddiad blynyddol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - 2021-2022

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant - 2020-2021

Adroddiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – 2019-2020

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2018-2019

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - 2017-2018