Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Nod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 y Brifysgol yw darparu strategaeth a chynllun gweithredu sy'n adlewyrchu anghenion ein gwahanol randdeiliaid. Mae'r strategaeth hon a'i hamcanion yn sefydlu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth o dan dair prif thema:
- Profiad Ein Myfyrwyr
- Galluogi mynediad teg i addysg uwch, gan sicrhau bod gan unigolion o bob cefndir a grŵp fynediad cyfartal i ddysgu.
- Mynd i'r afael â'r ffaith nad yw grwpiau gwarchodedig yn cael eu cynrychioli.
- Rhoi sylw i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, a darparu amgylchedd cefnogol i'n myfyrwyr.
- Profiad Ein Staff
- Creu amgylchedd lle gall pawb gyfrannu a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
- Cael gweithlu amrywiol a brwdfrydig, lle y caiff staff eu trin ag urddas, parch a chanddynt ymreolaeth briodol.
- Hyrwyddo diwylliant cynhwysol lle y gwerthfawrogir amrywiaeth.
- Profiad Ein Cymuned
- Sicrhau bod gan unigolion o bob cefndir a grŵp fynediad cyfartal i Addysg Uwch; datblygu prosiectau ar ehangu cyfranogiad, ymgysylltu â myfyrwyr a datblygu'r gweithlu.
- Deall sut mae ein cymuned yn defnyddio ein gwasasnaethau; mynd i'r afael â rhwystrau ac anghydraddoldebau a nodwyd.
- Ymgysylltu â grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae cynnal AEG yn gyfle i ystyried sut mae penderfyniadau, polisïau ac ati yn effeithio ar bobl neu grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae AEG hefyd yn rhoi trywydd archwilio i'r brifysgol, gan alluogi'r Brifysgol i ddangos bod ei phenderfyniadau'n cael eu hystyried a'u bod yn deg.
Dylid dechrau'r AEG wrth ystyried gweithredu newid neu wrth ddrafftio polisi, gweithdrefn neu ymarfer newydd fel y gellir ei ddefnyddio yn ystod y broses benderfynu.