Ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mae llawer o wahanol elfennau i'n darpariaeth lles, ac un ohonynt yw diogelu ein myfyrwyr rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth neu cael eu radicaleiddio.  Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau allanol ac yn unol â'r ddeddfwriaeth atal i greu amgylchedd dysgu agored a chynhwysol, lle mae lles ein myfyrwyr a'n cydweithwyr yn peri'r pryder mwyaf. 

  • Mae Atal yn un o bedwar maes gwaith sy'n ffurfio strategaeth gwrth-derfysgaeth y llywodraeth: 
  • Hela – yn canolbwyntio ar ganfod, ymchwilio ac amharu ar fygythiadau terfysgol i'r DU a'n buddiannau dramor. 
  • Amddiffyn – yn ceisio lleihau natur fregus buddiannau'r DU a'r DU dramor i ymosodiad terfysgol. Mae hyn yn cynnwys diogelwch hedfan ar gyfer cargo a theithwyr. 
  • Paratoi – yn anelu at leihau effaith unrhyw ymosodiad, rheoli unrhyw achosion o ymosodiad parhaus ac adfer yn gyflym ac yn effeithiol 
  • Atal – yn ceisio atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth 

Bydd Atal yn: 

  • Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a'r bygythiad a wynebir gan y DU gan y rhai sy'n ei hyrwyddo 
  • Atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cyngor a chymorth priodol 
  • Gweithio gydag ystod eang o sectorau (gan gynnwys addysg, cyfiawnder troseddol, ffydd, elusennau, y rhyngrwyd ac iechyd) lle mae risgiau o radicaleiddio y mae angen mynd i'r afael â hwy.