Askar Sheibani

Llywodraethwr Annibynol

Penodwyd Ionawr 2016

Askar Sheibani yw Prif Weithredwr Grŵp Comtek sydd â'i Brif Swyddfa yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn entrepreneur ers yn 8 oed creodd Askar Comtek dros 25 mlynedd yn ôl mewn sied yn yr ardd. Mae bellach swyddfeydd gan Grŵp Comtek yn Amsterdam, Frankfurt, Glannau Dyfrdwy, Reading, a Belffast ac mae wedi ehangu'n ddiweddar i Dyffryn Silicon, UDA drwy gaffael Sorrento Networks cwmni gweithgynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu telathrebu. Mae Comtek wedi tyfu'n sylweddol yn ddiweddar. mae wedi creu canolfannau technoleg delathrebu rhagorol sydd ar flaen y gad ac o safon ryngwladol.

Penodwyd Askar gan y Gweinidog Busnes i hybu entrepreneuriaeth a chychwn busnes yng Nghymru. Bu'n ymgynghorydd busnes i Ysgrifenydd Gwladol Cymru ac i Weinidogion eraill yn Llywodraeth y DU. Askar yw sylfaenydd a Chadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy.