Celia Jenkins

Llywodraethwr Annibynol

Penodwyd Mai 2015

Cafodd Celia Jenkins ei magu yn Sir Gaer ac mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers dros 25 mlynedd. Darllenodd Ieithoedd ac Ieithyddiaeth Modern ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ei chefndir proffesiynol mewn marchnata a chyfathrebu. Roedd yn ymgynghorydd hunangyflogedig i ddarparwyr gwybodaeth busnes rhyngwladol am nifer o flynyddoedd; yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn ymwneud â chodi arian a datblygiad yn y sector addysg.

Mae Celia'n eistedd fel ynad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae hi'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol yr Arglwydd Ganghellor ar gyfer Clwyd ac mae ar fwrdd rheoli nifer o sefydliadau nid-er-elw lleol. Yn 2013 roedd yn Uwch Siryf Clwyd.