Claire Homard

Llywodraethwr Annibynol

Penodwyd yn Chwefror 2020

Cafodd Claire Homard ei magu a’i haddysgu yn Sir y Fflint ac astudiodd Hanes ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1983 a 1986. Ar ôl cyfnod yn gweithio’n y sector diwydiant, cymhwysodd fel athrawes ysgol gynradd yn 1989 a gweithiodd mewn nifer o ysgolion yng ngogledd Swydd Efrog ac Essex. Dychwelodd i Sir y Fflint yn 1998 i gymryd swydd pennaeth ac ar ôl naw mlynedd cafodd ei phenodi gan Gyngor Sir y Fflint i arwain ar gyflwyno cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant tair i saith oed ar draws holl ysgolion Sir y Fflint.  

Ers hynny mae Claire wedi ymgymryd â nifer o rolau gwella ysgolion gyda’r Cyngor, yn cwmpasu’r blynyddoedd cynnar, cynradd ac uwchradd ac yn 2018 fe’i phenodwyd yn Brif Swyddog Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid, gan gyflawni rôl statudol Cyfarwyddwr Addysg. Mae Claire yn aelod o Fwrdd Rheoli GwE, y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, ac yn aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.