Jim Barclay
Llywodraethwr Annibynol
Penodwyd Mawrth 2019
Mae Jim Barclay yn weithiwr proffesiynol trafnidiaeth gyhoeddus profiadol, yn Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Swyddog Anweithredol ac mae wedi gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'n gyfrifydd cymwysedig ac mae ei gefndir yn cynnwys 8 mlynedd fel Cyfarwyddwr Cyllid sefydliad trafnidiaeth gyhoeddus c£360m a oedd yn cynnwys gweithgareddau twristiaeth. Ers 2013 Mae Jim wedi datblygu’n llwyddiannus bortffolio gyrfaol gan ddefnyddio ei brofiad rheoli strategol ac arweinyddiaeth sydd wedi ei ganoli ar waith cynnig tendr a gwerthuso masnachfreinio rheilffyrdd a chymorth i nifer o gleientiaid BBACh. Mae profiad Jim yn cynnwys llunio a gweithredu strategaeth, gwneud penderfyniadau, cyfleu gweledigaeth, datblygu perthynas, arwain, lobïo, rheoli risg, rheoli argyfwng, craffter ariannol, negodi effeithiol, caffael, a siarad cyhoeddus, rhwydweithio, paratoi ceisiadau a gwerthuso tendrau. Mae ei brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol wedi cynnwys nifer o sefydliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys y sectorau adwerthu, hamdden, morwrol ac addysg uwch. Ar hyn o bryd mae'n Ymddiriedolwr a Thrysorydd ar gyfer yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well.