Lauren Hole

Llywydd yr Undeb Myfyrwyr

Lauren Hole

Daw Lauren o Crewe yn Sir Gaer yn wreiddiol. Ar ôl llwyddo yn ei Lefel A, gwneud prentisiaeth mewn fferyllfa ysbyty a chwblhau blwyddyn ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, daeth Lauren i Brifysgol Glyndŵr yn 2018 i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.   

Dechreuodd Lauren weithio i’r Undeb Myfyrwyr yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, fel derbynnydd yn gyntaf ac yn ddiweddarach fel cymhorthydd marchnata digidol, a gwnaeth barhau i wneud hyn trwy gydol ei hastudiaethau. Roedd Lauren yn ymgysylltu llawer mwy â bywyd y brifysgol trwy hyn, ac ym mis Mawrth 2021 rhoddodd ei henw ymlaen ar gyfer Etholiadau’r Undeb Myfyrwyr, a chael ei hethol.

Blaenoriaeth Lauren fel Llywydd yw cynorthwyo i ddod â myfyrwyr at ei gilydd i atal unigrwydd, a’u gwneud yn fwy ymwybodol o’r Undeb Myfyrwyr a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig. Mae Lauren yn awyddus i brofiad myfyrwyr fod y gorau y gall fod, ac mae’n gwerthfawrogi rôl yr Undeb Myfyrwyr yn hwyluso hynny.