Dr Leigh Griffin

Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr

Graddiodd Leigh gyda gradd BA Daearyddiaeth o Brifysgol Cymru ac aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth mewn epidemioleg salwch meddwl/modelu ystadegol ym Mhrifysgol Bryste. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a dealltwriaeth fanwl am y maes iechyd a gofal cymdeithasol a pholisi cyfredol. Bu’n arwain nifer o sefydliadau comisiynu’r GIG a sefydliadau cymorth comisiynu, rheoli rhaglenni newid cymhleth ac mae ganddo dystiolaeth gadarn o fod yn arweinydd strategol ac arwain gweddnewid. Gwnaeth ‘ymddeol’ o’r GIG yn 2016.

 

Yn dilyn cadeirio nifer o gyfarfodydd GIG mae ganddo wybodaeth gynhwysfawr am lywodraethu, risgiau, uniondeb ariannol a gwella iechyd a pherfformiad gyda ffocws strategol cryf. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Leigh wedi cyflawni nifer o rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Ymddiriedolwr, yn cynnwys bod yn aelod Anweithredol o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Gogledd Canolbarth Lloegr ers 2018, lle mae’n Gadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol ac yn gweithredu fel gwarcheidwad llesiant yr Ymddiriedolaeth. Mae hefyd yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Brandon sy’n darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. 

 

Mae gan Leigh, sy’n byw yn Sir Amwythig, ddealltwriaeth glir am bwysigrwydd llywodraethu da a chyfathrebu effeithiol a pherthnasoedd cadarn â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae’n angerddol dros addysg a dysgu gydol oes a’i allu i newid bywydau pobl o bob oedran a chefndir cymdeithasol.