Maureen Wain

Llywodraethwr Annibynol

Maureen Wain

Penodwyd Gorffennaf 2021

Mae Maureen Wain yn uwch arweinydd profiadol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Ar ôl mwynhau gyrfa 30 mlynedd yn y GIG mae hi wedi rhannol ymddeol yn ddiweddar a bellach mae’n gweithio i gefnogi bylchau mewn swyddi uwch arweinyddiaeth yn y GIG. Mae hi wedi’i chyflogi fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau mewn ysbyty ym Manceinion ar hyd o bryd, a chafodd swyddi fel Cyfarwyddwr Ysbyty yng ngogledd Cymru a Chyfarwyddwr Isadrannol yn y gogledd orllewin. 

Buddiannau gorau’r cleifion sy’n sbarduno popeth mae Maureen yn ei wneud, ac mae ganddi enw da am ei hangerdd a’i hymrwymiad i’r GIG. 

Mae croesawu newid yn rhan annatod o awch Maureen i weithio efo timau a gwneud gwahaniaeth, yn y gwaith ac mewn meysydd y tu hwnt i hynny.

Mae Maureen yn treulio peth o’i hamser hamdden fel Rheolwr Clwb Nofio Garston, swydd wirfoddol yn ne Lerpwl, lle mae’n goruchwylio rhaglen sy’n amrywio o Ddysgu Nofio i sgwâd cystadleuol. Mae hi’n angerddol ynghylch mentrau cymunedol sy’n cynorthwyo i ddatblygu plant ac oedolion ifanc. 

Symudodd Caroline Whiteley i Ogledd-orllewin Lloegr 25 mlynedd yn ôl pan ymunodd ei gŵr â busnes teuluol. Mae'n eistedd ar Cyngor y Teulu ac wedi bod yn ymwneud yn agos ag adolygu a gwella ei lywodraethu corfforaethol.

Darllenodd gymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerwysg, gan raddio ag ail uwch yn 1981 a chymhwyso'n Gyfrifydd Siartredig yn 1984. Mae ei phrofiad yn cynnwys archwilio, ymgynghori, rheoleiddio busnesau archwilio a buddsoddi, llywodraethu corfforaethol a moeseg yn Llundain, UDA, Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.

Mae ganddi brofiad teuluol o faterion iechyd meddwl ac o astudio ar lefel gradd gyda'r heriau hyn. Mae hi ar fwrdd ymgyrchu Ymddiriedolaeth Frank Buttle.