Maxine Penlington OBE

Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr

Maxine Penlington

Penodwyd yn Gadeirydd y Bwrdd, Rhagfyr  2015

Cafodd Maxine ei geni a'i magu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mi wnaeth hi ymddeol o'i swydd yn Brif Swyddog Gweithredu Prifysgol Dinas Birmingham yn 2013 ac mae ganddi 33 mlynedd o brofiad o reoli a llywodraethu addysg uwch.

Mae ei gyrfa broffesiynol wedi cael ei threulio'n gyfan gwbl yn sector ôl-92 addysg uwch, gan ymwneud yn weithredol â thwf a datblygiad sefydliadu sy'n datblygu.  Yn ogystal â hyn, bu'n gwasanaethu am 12 mlynedd tan 2004 yn aelod o gorff llywodraethu coleg chweched dosbarth, y 9 mlynedd olaf yn Gadeirydd, gan gefnogi ei ddatblygiad yn sefydliad mwy a chanddo sail ehangach.

Mae cyfrifoldebau a phrofiad Maxine wedi cwmpasu cynllunio a strategaeth sefydliadol, cyllunio corfforaethol a chynllunio cyllid, strategaeth marchnata ac ennill safle yn y farchnad, hesymoli ystadau a chynllunio campws newydd, ac arwain y gwasanaethau proffesiynol. 

Roedd llywodraethu yn elfen graidd o'i chyfrifoldebau fel Ysgrifennydd i gyrff llywodraethu dau sefydliad addysg uwch rhwng 1987 a 2009. Mae ganddi brofiad yn Ysgrifennydd ac aelod Bwrdd o lywio newid cyfansoddiadol ffurfiol, datblygu polisi ac arferion llywodraethu ac o ddatblygu effeithiolrwydd y Bwrdd. Yn ddiweddar, fel Ysgrifennydd y Pwyllgor Cadeiryddion y Brifysgol (CUC) o 2009 i 2013 bu'n ymwneud yn ehangach mewn hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu corfforaethol ym mhrifysgolion y DU.

Roedd Maxine yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Penaethiaid Gweinyddiaeth Brifysgol (AHUA) am y deg mlynedd i 2013, un o sylfaenwyr y Bwrdd Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol o'i greu yn 2003 tan 2009 ac yn aelod o'r Grŵp Adolygu Rheoleiddio Addysg Uwch o 2004 hyd 2008. 

Derbyniodd Maxine OBE am wasanaethau i addysg uwch yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2014.