Paul Barlow

Is-gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr

Paul Barlow

Penodwyd Is-gadeirydd y Bwrdd, Rhagfyr 2018.

Wedi’i eni ar benrhyn Cilgwri, cafodd Paul yrfa 26 mlynedd ar y dechrau gyda Banc Barclays. Bu deng mlynedd olaf ei yrfa gyda Banc Barclays yn ymwneud â rheoli newidiadau, a chanlyniad hyn oedd arwain rhaglenni o newid byd-eang traws-swyddogaethol gyda chyllidebau blynyddol o fwy na £5 miliwn, yn atebol ar lefel Bwrdd. Llwyddodd Paul i gyflenwi rhaglenni oedd yn cynnwys canoli swyddi cefn, gosod prosesau ar gontract allanol/tramor, newidiadau swyddfeydd blaen trawsnewidiol, taliadau, risg a mentrau newid AD.

Ymunodd Paul ag Avox, wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, fel ei 46ed cyflogedig yn 2006, ac ers hynny y mae wedi chwarae rhan allweddol (fel Prif Swyddog Gweithredol) o ran datblygu’r cwmni'n 550 gweithiwr, gyda’r busnes yn cael ei brynu gan Thomson Reuters yn 2017.

Penderfynodd Paul gymryd ymddeoliad cynnar a gadawodd ei swydd gydag Avox/Thomson Reuters  yn Rhagfyr 2017, ond cafodd ei demtio yn ôl i waith cyflogedig yn hwyr ym mis Ionawr 2018, gan gychwyn yn ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol Disclosure Services Limited, sydd hefyd wedi’i lleoli yn Wrecsam. Y mae’n grediniwr cryf fod cael sector AB ac AU cryf yn yr ardal yn gwbl allweddol i gefnogi twf busnes ac mae'n awyddus i roi pob cefnogaeth i dwf busnes a gallu Glyndŵr Wrecsam, yn y tymor byr a chanolog.