Paul McGrady MBA CPFA

Llywodraethwr Annibynol

Paul McGrady

Penodwyd Mai 2016 

Cafodd Paul ei fagu yn Wrecsam a dechreuodd ei yrfa gyda Chyngor Wrecsam, lle gwnaeth gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig Cyllid Cyhoeddus.   

Aeth ymlaen i weithio i gyrff cyhoeddus mawr yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru fel Pennaeth Cyllid ac Asedau Cyngor Sir Ddinbych, lle’r oedd yn rheoli materion ariannol y Cyngor, ei bortffolio eiddo yn cynnwys unedau busnes, tir, ffermydd, adeiladau cyhoeddus a swyddfeydd ac roedd yn bennaeth Adran Tai’r Cyngor. Bu’n gweithio ar brosiectau uchel eu proffil yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd, harbwr a phont newydd yn y Rhyl a datblygiad gwesty a bwyty newydd. 

Yna daeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau yng Nghartrefi Cymunedol Gwynedd, landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n rheoli 6,300 o gartrefi yng ngogledd orllewin Cymru, cyn symud i fod yn gyfarwyddwr gyda Thai Clwyd Alyn, sefydliad sy’n darparu tai, gofal nyrsio a phrosiectau byw gyda chefnogaeth ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. 

Mae Paul hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Catrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n is-gwmni i Gyngor Sir y Fflint, sy’n darparu tai fforddiadwy ledled y sir.