Richard Campbell

Llywodraethwr Annibynol

Richard Campbell

Penodwyd Medi 2022

Mae Richard wedi cyflawni sawl rôl Risgiau ac Ailstrwythuro ar ran Barclays Bank plc yn ystod ei yrfa 40 mlynedd yn cynnwys arweinyddiaeth tîm yng ngogledd orllewin Lloegr ac yn genedlaethol o Lundain. Mae’n fanciwr ailstrwythuro profiadol gyda bron i ugain mlynedd o brofiad rheoli achosion busnesau bach a chanolig ymhob sector. Teithiodd yn eang yng ngogledd orllewin Lloegr, Gogledd Cymru a Gogledd Iwerddon i roi cefnogaeth i fusnesau mewn anhawster neu drallod ar lefel y bwrdd.   

Mae’n Aelod Cyswllt y Sefydliad Siartredig Bancwyr ac mae ganddo MBA â theilyngdod. 

Penderfynodd ymddeol o Barclays yn 2019 ac mae’n awyddus i ddefnyddio ei sgiliau a’i brofiad i wynebu heriau newydd.