Yr Athro Richard Day

Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil)

Ymunodd Richard â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ym mis Ionawr 2010, fel Athro Peirianneg Gyfansawdd. Yna daeth yn Bennaeth yr Adran Beirianneg, gyda chyfrifoldeb dros weithgareddau ar draws safleoedd Wrecsam, Brychdwn a Llanelwy.


Bellach mae’n Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, yn ogystal â pharhau ei swydd fel Athro peirianneg. Mae ei waith yn golygu arwain y paratoadau ar gais i gael pwerau dyfarnu graddau meistr, yn ogystal â’r paratoadau i’w gyflwyno i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.


Astudiodd Ffiseg yng ngholeg Queen Mary, Prifysgol Llundain, yna gradd feistr mewn Ffiseg Deunyddiau ym Mhrifysgol Bryste. Dychwelodd i Lundain i ddilyn astudiaethau PhD mewn diraddiad polymerau crisial unigol.


Daw Richard â hanes cryf o ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil i’r Brifysgol, yn ogystal â phrofiad mewn derbyniadau a monitro ôl-raddedig. Mae ganddo gefndir eang mewn ffiseg, cemeg, a pheirianneg drydanol.