Richard Thomas

Llywodraethwr Annibynol

Richard Thomas

Penodwyd Gorffennaf 2021

Treuliodd Richard flynyddoedd cynnar ei fywyd gwaith fel peiriannydd a rheolwr yn y diwydiannau copr a dur cyn symud i yrfa ym maes addysg uwch. Bu’n gweithio i nifer o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a Lloegr, mewn swyddi’n amrywio o ddarlithydd i Is-Ganghellor Cynorthwyol. Bu’n gysylltiedig ag addysgu a datblygu’r cwricwlwm Peirianneg trwy gydol ei yrfa ynghyd ag ystod eang o raglenni’n gysylltiedig â STEM – Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Yn ychwanegol bu’n rhan o arwain nifer o brosiectau ymchwil cymhwysol a phrosiectau cyfnewid gwybodaeth gydag amrediad eang o bartneriaid diwydiannol. Mae ganddo ddiddordeb mewn addysg ryngwladol a bu’n gwasanaethu ar Grŵp Cynghori Rhyngwladol Dirprwy Is-Gangellorion Prifysgolion Cymru. Mae’n gyn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan ac yn aelod o Bwyllgor Cynghori Rhyngwladol Prifysgol Coventry ar hyn o bryd.

Roedd Richard yn ymwneud llawer â gweithgareddau allgymorth y Rhaglen STEM Addysg Uwch Cenedlaethol a Chynllun Addysg Peirianneg Cymru. Yn ystod ei gyfnod yng ngogledd Lloegr bu’n gweithio’n agos â’r Amgueddfa Wyddoniaeth a Chyfryngau Cenedlaethol yn Bradford ynghylch Gŵyl Gemau Sir Efrog a nifer o sefydliadau diwylliannol yn adlewyrchu amrywiaeth y rhanbarth. Ochr yn ochr â’i yrfa academaidd bu Richard yn gweithio fel gohebydd cerddoriaeth am sawl blwyddyn. Bu’n aelod o Gyngor Guild HE a bwrdd prosiect y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru ac yn aelod o fwrdd Gyrfa Cymru. Mae Richard yn angerddol ynghylch grym addysg i weddnewid bywydau unigolion a rôl allweddol prifysgolion yn sicrhau llesiant cymdeithasol ac economaidd y Deyrnas Unedig, a Chymru’n benodol.