Sally Lambar

Llywodraethwr Staff Gwasanaethau Proffesiynol a Etholwyd

Sally Lambah

Penodwyd Medi 2021

Cyn ei gyrfa ym myd addysg roedd Sally yn rheolwr cynorthwyol mewn nifer o gyfleusterau chwaraeon a hamdden lle roedd hi’n rheoli pobl, trefnu digwyddiadau, gofalu am weithrediadau o ddydd i ddydd a chynnal a gwella safonau gofal cwsmer. Deilliodd diddordeb Sally ym maes addysgu, dysgu ac asesu o’i llwyddiant yn annog a datblygu staff a chleientiaid fel ei gilydd.

Mae Sally wedi gweithio yn y sector addysg bellach am yr ugain mlynedd ddiwethaf fel darlithydd chwaraeon, busnes a gwasanaethau cyhoeddus, fel rheolwr rhaglen chwaraeon, rheolwr gwasanaethau i ddysgwyr a rheolwr ansawdd. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf mae Sally wedi gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam fel Rheolwr Cyngor ac Arweiniad i Fyfyrwyr yn y Gwasanaeth Bywyd Campws a Myfyrwyr (gwasanaethau i fyfyrwyr).