Yr Athro Sandra Jowett

Llywodraethwr Annibynol

Sandra Jowett

Penodwyd Mai 2016

Wedi'i geni yn Llanelwy a'i handdysgu yng Nghymru, roedd Yr Athro Sandra Jowett yn uwch reolwr ac arweinydd strategol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat am fwy na 25 mlynedd. Arweiniodd dimau ymchwil yn y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg yn Lloegr a Chymru, gan ganolbwyntio ar effaith polisïau cenedlaethol ar unigolion a chymunedau.

Mae hi hefyd wedi gweithio mewn pedair prifysgol yn arwain ystod o swyddogaethau gwasanaeth corfforaethol, addysgu a dysgu, ymchwil, a throsglwyddo gwybodaeth gan ymddeol yn ddiweddar fel  Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cumbria. Mae wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau cynghori cenedlaethol a byrddau sy'n ymwneud ag iechyd,  ymchwil ac addysg ac ar hyn o bryd hi yw Is-gadeirydd y Rhwydwaith Coleg Agored Cenedlaethol ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG  Pennine Care.

Trwy fynd i'r brifysgol yn fyfyrwraig aeddfed, mae Sandra yn ymwybodol iawn o grym trawsnewidiol addysg uwch ac yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno dysgu, addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.