Trevor Henderson

Aelod Cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio

Trevor Henderson

Penodwyd ym mis Chwefror 2020

Mae Trevor yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig a swyddog proffesiynol Llywodraethu Siartredig gyda chyfoeth o brofiad rheolaeth ac arweinyddiaeth. Dechreuodd ei yrfa ym maes cymorth cynnyrch yn y sector peirianneg trwm cyn hyfforddi fel cyfrifydd yn y sector cyhoeddus ac yna symud i’r sector nid er elw lle bu mewn nifer o swyddi cyllid a llywodraethu.

Ymddeolodd ym mis Medi 2019 ar ôl ugain mlynedd gyda’r darparydd tai cymdeithasol Clwyd Alyn, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Canolog y Grŵp yn gyntaf ac yna’n Ddiprwy Brif Weithredwr y Grŵp. Bellach mae Trevor yn aelod o Fwrdd a Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Cartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ledled sir Conwy yng Ngogledd Cymru.