Chancellor Colin Jackson CBE

Canghellor Colin Jackson CBE

Cafodd Colin Jackson CBE ei benodi’n Ganghellor Prifysgol ar 1af Ionawr 2019, ac ef yw pedwerydd Canghellor y Brifysgol. Cafodd ei groesawu’n swyddogol i’r rôl mewn Seremoni a gynhaliwyd ar 15fed Chwefror 2019.

Mae'r Canghellor yn arweinydd mewn enw ac yn gweithredu fel

llysgennad i'r Brifysgol a'i staff a'i myfyrwyr, gan fynychu nifer o ddyletswyddau seremonïol pwysig gan gynnwys seremonïau graddio'r Brifysgol, a chynrychioli'r Brifysgol mewn gwahanol ddigwyddiadau.

Mae Colin yn gyn-athletwr llwyddiannus sydd wedi ennill medalau aur niferus ac wedi cyflawni nifer o recordiau o’r byd chwaraeon. Mae bellach yn ddarlledwr bywiog a charismatig.

Bywgraffiad

Ganed Colin yng Nghaerdydd, De Cymru ac fe’i magwyd yn Llanedern, gan fynychu ysgol gynradd Springwood ac Ysgol Uwchradd Llanedern. Chwaraeodd bêl-droed a chriced dros y sir a Rygbi’r Undeb a phêl-fasged dros ei ysgol ac ymunodd â’r clwb athletau Birchgrove Harriers, a oedd yn meithrin ei ddawn.

Cychwynnodd Colin Jackson fel decathlet addawol cyn newid i glwydi uchel. Enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd 1986 cyn symud i’r rhengoedd hŷn. Yn dilyn medal arian yng Ngemau’r Gymanwlad 1986, enillodd fedel arian y 110m dros y clwydi yng Ngemau Olympaidd 1988.

Gosododd ei record byd am y ras 110 metr dros y clwydi ar 20 Awst 1993, gan ennill ei fedal aur Pencampwriaethau’r Byd gyntaf yn yr Almaen. Gwnaeth y marc newydd (oedd hefyd yn record i’r pencampwriaethau) sefyll am bron i dair blynedd ar ddeg, ond Colin yw unig ddeiliad record y byd dan do ar y clwydi dros 60 metr o hyd sef Yr Almaen 6 Mawrth 1994. Ym Mhencampwriaethau Dan Do Ewrop 1994 daeth yn bencampwr Ewropeaidd dwbl: gan ennill yn y clwydi dros 60 metr a’r ras gwibio 60 metr.

Enillodd pedwar deg pedwar ras yn olynol rhwng Awst 1993 a Chwefror 1995 a record Gemau’r Gymanwlad oedd ei amser buddugol yng Ngemau’r Gymanwlad 1994.

Mae Colin wedi trosglwyddo’n ddi-drafferth i fyd darlledu, yn bennaf fel rhan anhepgor o BBC Athletics, gan ohebu o bob prif ddigwyddiad ers Gemau Olympaidd Athen yn 2004. Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, Gemau Rio yn 2016 a Phencampwriaethau’r Byd 2017.

Gan adlewyrchu ei gyflwyno a’i sylwebu ar y sgrin, mae Colin yn westeiwr cynadleddau/ seremonïau bywiog a charismatig, ac yn siaradwr ysgogol o’r radd flaenaf.

Yn 2012, lansiodd Colin y Red Shoes Academy, y mae sêr chwaraeon y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn rhoi cyflwyniadau i gynulliadau ysgol i gymell pobl ifanc i gael hyd i’r ‘Pencampwr Oddi Mewn’.

Yn 2013, creodd ei ddigwyddiad codi arian elusennol ei hun i ddynion, Go Dad Run i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd ac i godi arian ar gyfer elusennau i ddynion ac mae wedi ymuno â Sport4kids (S4K) fel eu Cyfarwyddwr Rhyngwladol a’u Llysgennad Brand.