Mae'r Brifysgol yn rhoi Cymrodoriaethau er Anrhydedd i bobl i gydnabod eu hymrwymiad sylweddol i'r Brifysgol a'r gymuned ehangach, a dyma'r anrhydedd uchaf y gall y Brifysgol ei gyflwyno. Fel arfer, rhoddir Cymrodoriaethau er Anrhydedd yng Nghynulliad Dyfarniadau Blynyddol y Brifysgol.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol wedi cytuno bod enwebiadau ar gyfer Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn agored i bobl o'r gymuned leol neu'r gymuned ehangach ac i unrhyw aelod blaenorol o staff y Brifysgol neu Fwrdd y Llywodraethwyr, waeth beth fo eu cymwysterau academaidd, ac yn amodol ar y bobl hynny'n bodloni meini prawf cymhwysedd a bennwyd gan y Bwrdd.

Gall enwebai fod yn gymwys o ran y meini prawf canlynol:
(i) Cefnogaeth i fuddiannau Prifysgol neu i ran benodol o weithgareddau'r Brifysgol;
(ii) Hyrwyddo dibenion academaidd y Brifysgol;
(iii) cysylltiadau rhwng y Brifysgol a Sefydliadau eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol;
(iv) Wedi cyfrannu'n sylweddol at y gymuned leol neu'r gymuned ehangach neu i faes penodol, er enghraifft, cerddoriaeth a'r celfyddydau, gwyddoniaeth, busness.

Mae'r alwad am enwebiadau yn cael ei gwneud bob blwyddyn i'w ystyried gan Bwyllgor Enwebiadau Bwrdd y Llywodraethwyr.

Dilynwch y ddolen hon i weld Cymrodorion er Anrhydedd cyfredol y Brifysgol

Enwebu Cymrawd er Anrhydedd

Pe hoffech enwebu rhywun i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Glyndŵr, edrychwch ar y meini prawf cymhwysedd uchod ac wedyn Honorary Fellow Nomination Form (testun yn unig). Dylid anfon ffurflenni enwebu wedi'u cwblhau at Glerc Bwrdd y Llywodraethwyr, PP1, Prifysol Glyndŵr, Plas Coch, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW, v.butterworth@glyndwr.ac.uk. Caiff enwebiadau eu trin yn gyfrinachol.

Y Weithdrefn Ystyried Cymrodoriaethau Anrhydeddus