Ynglŷn â’rbrifysgol

O hanes cyfoethog i ddyfodol disglair ar gyfer addysg yng Ngogledd Cymru – mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn rhoi sylw personol i ddysgu a dyfodol pob myfyriwr.
Ein hanes
Rydym wedi ein henwi ar ôl yr ysgolhaig a’r arwr o Gymru, Owain Glyndŵr, a’n nod yw hyrwyddo rhai o’r un athroniaethau ag ef.
Mae ei ysbryd wrth galon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ble rydym yn anelu at fod yn feiddgar, yn fentrus ac yn agored i bawb ym mhopeth a wnawn.
Rydym wedi bod yn darparu addysg ar ein prif gampws yn Wrecsam ers 1887, a’n henw bryd hynny oedd Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Wrecsam. Fe ddechreuom ni gynnig cyrsiau gradd yn 1924 ac rydym wedi datblygu llawer oddi ar hynny.
Yn 1927 fe ddaethom i gael ein hadnabod fel Sefydliad Technegol Sir Ddinbych, gan symud i Stryt y Rhaglaw, sydd bellach yn gartref i’n cyrsiau creadigol. Wrth i’r sefydliad a hefyd y galw am gyrsiau dyfu, dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu’r hyn sydd erbyn hyn yn brif gampws Plas Coch, ac ym 1938 agorodd Coleg Technegol Sir Ddinbych.
Syr Patrick Abercromby, y pensaer enwog o Lerpwl a Dulyn, fu’n gyfrifol am ddyluniad mewnol y Coleg, ac fe’i gwelwyd mewn sawl cylchgrawn Pensaernïaeth ar ddechrau’r 1950au. Comisiynwyd Peggy Angus i ddylunio teils addas ar gyfer y prif gyntedd. Roedd y rhain yn unigryw i’r Coleg ac yn cynrychioli llif o ddysg gyda chefndir Cymreig. Mae’r teils yma i’w gweld o hyd ac yn mwynhau amddiffyniad Gradd II.
Buan y daeth yn angenrheidiol uno tri prif goleg Sir Clwyd: Coleg Technegol Sir Ddinbych, Coleg Hyfforddi Athrawon Cartrefle (a leolwyd ym mhen arall Wrecsam) a Choleg Celstryn yng Nghei Connah ger Caer.
Daeth Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) yn un o’r mwyaf o’i math ym Mhrydain gyda thros 9,000 o fyfyrwyr a chyllideb flynyddol yn 1975 o £5 miliwn.
Tyfodd y Coleg o ran nifer y myfyrwyr ac yn ei enw da wrth i’w arbenigedd ddenu sylw ledled y byd.
Yn 2008, cyflawnodd NEWI statws prifysgol a ganwyd Prifysgol Glyndŵr.
Ein dyfodol
Fel un o’r prifysgolion ieuengaf yn y DU, ein cenhadaeth yw ysbrydoli a galluogi; trawsnewid pobl a lleoedd a gyrru llwyddiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Ein gwerthoedd craidd yw bod yn:
- Hygyrch
- Cefnogol
- Arloesol
- Uchelgeisiol
Mae ein gwerthoedd wedi eu hymgorffori yn ein Gweledigaeth a Strategaeth hyd 2025, gan baratoi’r brifysgol ar gyfer llwyddiant i’r dyfodol.
Darllenwch fwy am ein gwerthoedd a gweledigaeth.
Cefnogi dysgu
Mae ein Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF) wedi ei gwreiddio yn ein gwerthoedd. Mae’r ALF yn cefnogi dysgu hyblyg ac yn gwneud y defnydd gorau o wagleoedd ar y campws ynghyd â chyfleoedd dysgu a alluogir yn ddigidol sydd wedi eu dylunio i’w defnyddio ar unrhyw adeg, mewn unrhyw fan fel sy’n briodol. Er bod pethau o bosib yn wahanol, a bod rhaid inni ail-ddychmygu sut rydym yn astudio a gweithio – mae ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i gymuned ein prifysgol, ein rhanbarth a thu hwnt yn parhau.
Datblygu ein campysau
Wrth inni edrych ymhellach ymlaen at ein dyfodol fel prifysgol, Campws 2025 yw strategaeth £60m Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i wella ein holl gampysau i sicrhau bod gan ein myfyrwyr y cyfleusterau a’r amgylchedd dysgu gorau.
Rydym eisoes wedi cwblhau dau wagle dysgu modern a chroesawgar: Yr Astudfa a’r Oriel, ein hystafell ddosbarth Amgylched Dysgu Gweithgar i fyfyrwyr neu’r ystafell ‘Uwchraddio’ (Student Centred Active Learning Environment (SCALE-UP) a Chanolfan Genedlaethol Datblygu Pêl-droed Parc y Glowyr.
Mae’r cynlluniau mwy hirdymor yn cynnwys creu adeilad porth yng nghanol campws Plas Coch a fydd yn brif fynedfa i’r brifysgol a hefyd yn gartref i’r Undeb y Myfyrwyr newydd.
Bydd ein campws Stryt y Rhaglaw mynd trwy raglen o ailwampio gofalus, ac mae gwelliannau i’n campws yn Llaneurgain yn cynnwys ailwampio’r neuadd chwaraeon i ddarparu gwagle dysgu ac arsylwi newydd sbon ar gyfer ein cwrs nyrsio milfeddygol.
Ein huchelgais yw bod yn borth dysg i Wrecsam - Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw un o’r mannau cyntaf y mae ymwelwyr i Wrecsam yn eu gweld ac mae ein huchelgais yn cyd-fynd â’r weledigaeth gyffredinol i drawsnewid Wrecsam. Bydd Campws 2025 yn arwain at well darpariaeth academaidd, poblogaeth barhaus a chynyddol o fyfyrwyr a bydd y gymuned ehangach yn elwa o hyn oll.