Ysbrydoli a galluogi drwy addysg uwch.

Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a galluogi drwy addysg uwch, ymchwil ac ymgysylltu; gweithio gyda’n myfyrwyr, staff a phartneriaid. Yn sail i’n gweithgaredd mae ein gwerthoedd craidd:

Hygyrch

Rydym yn eiriolwyr angerddol dros ddysgu gydol oes ac yn credu na ddylai cefndir ac amgylchiadau fod yn rhwystr i ymgysylltu ag addysg uwch. Rydym yn ymroddedig i hygyrchedd, tegwch a chynwysoldeb yn y modd yr ydym yn addysgu, ymchwilio a darparu ein gwasanaethau.

Cefnogol

Rydym yn meithrin amgylchedd cefnogol i annog ein staff a’n myfyrwyr i weithio gyda’i gilydd i gyflawni eu nodau dysgu, ymchwil a gyrfaol. Mae ein cymunedau yn agos at ein calon ac rydym yn arwain yn rhagweithiol ac yn cefnogi mentrau sydd yn cyfoethogi’r economi leol a bywydau pobl leol.

Arloesol

Rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Rydym yn cydnabod bod ein llwyddiant yn ddibynnol ar egni, deallusrwydd a chreadigedd cyfunol cymuned y brifysgol. Rydym yn mynd ati i annog safbwyntiau ac arloesedd newydd mewn addysgu, ymchwil a’r modd rydym yn ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid. Rydym yn cwestiynu’r status quo ac yn ddigon dewr i gofleidio ffyrdd newydd o wneud pethau. Mae hyn yn galluogi ein diwylliant, strwythur, polisïau a phobl i anelu am ragoriaeth ac ymateb yn effeithiol i angen.

Uchelgeisiol

Rydym yn hynod uchelgeisiol dros ein staff, myfyrwyr a’n cymunedau. Rydym yn cydnabod nac oes unrhyw gyfyngiadau i ddysgu a gwybodaeth ac rydym yn herio pobl i ddilyn eu dyheadau a llwyddo drwy addysg. Rydym yn hygyrch o ran yr addysgu a ddarparwn ar gyfer ein myfyrwyr, staff a chymuned, ac yn rhagweithiol wrth hyrwyddo gwerth addysg uwch. Mae hyn wedi ei seilio ar ymroddiad i fod yn gynhwysol a theg yn y modd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau.

Mae cenhadaeth a gwerthoedd y Brifysgol yn mynegi eu hunain yn y weledigaeth ar gyfer ein pedwar parth strategaeth: dysgu sy’n ysbrydoli, ymchwil sy’n trawsnewid, ymgysylltu sy’n galluogi a strwythur sy’n cynnal.

Darllenwch ein Gweledigaeth a Strategaeth.

Mae ffocws cymhwysol i’n gweithgaredd

Anelu am ragoriaeth, drwy ddarparu portffolio cwrs dan arweiniad cyflogwyr a diwydiant, i ddarparu gweithwyr proffesiynol sydd yn barod i gamu i’w gyrfa i gefnogi a diwallu anghenion yr economi ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ac mae’n gosod myfyrwyr wrth galon yr hyn a wnawn

Darparu cymuned fywiog, gyfeillgar a chefnogol, sydd yn canolbwyntio ar ysbrydoli pob person drwy diwtoriaid personol, i gefnogi a diwallu anghenion unigol wrth gyrraedd eu potensial drwy ragoriaeth academaidd.

Sut rydym yn gweithio

  • Rydym yn cynnwys ac yn gwrando ar fyfyrwyr ym mhopeth a wnawn
  • Rydym yn adeiladu partneriaethau sydd o fudd i’r ddwy ochr
  • Rydym yn cyflawni ein haddewidion
  • Rydym yn cadw prosesau yn syml ac yn effeithiol
  • Rydym yn rhagweld ac yn gweithredu
  • Rydym yn cyfathrebu’n agored ac yn rheolaidd