Ymgeisio trwy UCAS

 

Am y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig, byddech angen ymgeisio trwy UCAS. Unwaith rydych wedi dewis pa gyrsiau hoffech chi wneud cais amdanynt yna bydd angen i chi gofrestru ar UCAS.com i ddechrau eich cais.

Os ydych dal yn yr ysgol neu goleg, efallai gewch chi "buzzword" i ddefnyddio pan ydych yn cofrestru - bydd hyn yn helpu gwahaniaethu ble rydych yn gwneud cais o. Ni fydd angen i'r rheini sy'n dymuno gwneud cais yn annibynnol dderbyn "buzzword", ond byddent yn dal i ddefnyddio'r system UCAS i wneud cais.

Gwneud cais uniongyrchol i ni

Os ydych yn ymgeisio'n uniongyrchol i ni drwy ein Ffurflen Cais am Fynediad ar bapur neu ar lein, dylech anelu i lenwi pob rhan o'r ffurflen mor llawn a fedrwch chi fel bod gennym ni ddigon o wybodaeth gennych chi er mwyn i ni fedru gwneud dewis. Os ydym angen gwybodaeth bellach gennych chi ar ôl i ni dderbyn y ffurflen byddem yn cysylltu â chi yn syth, ond cofiwch gall hyn oedi eich dewis ychydig felly anelwch i gwblhau'r ffurflen mor llawn â phosib yn wreiddiol.

UCAS Ychwanegol

 

Mae UCAS Ychwanegol ar gyfer ymgeisydd sydd yn barod yn system UCAS a heb dderbyn cynigion gan eu dewisiadau gwreiddiol neu wedi dirywio unrhyw gynnig a dderbyniwyd. Mae UCAS Ychwanegol ar gael ar lein o Chwefror y 25ain i Orffennaf y 4ydd.

Os oes gennym ni lefydd ar eich cwrs dewisol, yna byddem yn cysidro eich cais a gobeithio rhoi cynnig i chi fel gallwch chi ychwanegu ni fel un o'ch dewisiadau Ychwanegol. Byddem yn eich cynghori ar eich amgylchiadau unigol pan ydych yn cysylltu â ni, ond er mwyn i ni gysidro dewis mor fuan â phosib, rydym yn gofyn eich bod yn mynd i'r rhan edrych ar eich cais o fewn UCAS Track, ei gopïo a gyrru copi o'ch cais drwy e-bost.

Am fwy o wybodaeth ar UCAS Ychwanegol ewch i wefan UCAS.

Clirio

Os ydych yn gwneud cais trwy UCAS ar ôl Mehefin y 30ain, ni chaiff eich cais ei yrru i ni. Yn lle hyn, byddech yn derbyn manylion am Glirio.

Mae Clirio yn broses sydd ar gael rhwng Gorffennaf a Medi i'r rheini sydd yn gwneud cais yn hwyr, wedi gwneud cais yn barod a heb dderbyn lle, neu wedi dirywio pob un cynnig a chafwyd.

A student working in The Study

Cwblhau eich cais

Mae'r system ymgeisio ar lein ar agor o fis Medi am fynediad i'r Brifysgol y flwyddyn ddilynol. Nid oes angen i chi gwblhau eich cais i gyd mewn un diwrnod - mae'r system yn caniatáu i chi ei gwblhau mewn rhannau.

Bydd angen i'ch cais gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich gwybodaeth bersonol - cofiwch fod angen rhoi eich enw fel mae'n dangos ar ddogfennau swyddogol, fel eich tystysgrif geni neu basbort.
  • Eich cymwysterau - gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich cymwysterau i gyd gan gynnwys unrhyw gymhwyster i ddod rydych yn disgwyl canlyniadau ar eu cyfer. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblem, cysylltwch â UCAS neu ein tîm mynediad.
  • Canolwr - yn ddelfrydol dylai hwn fod yn athro/athrawes neu rywun proffesiynol sy'n eich adnabod yn dda ac yn gallu gwirio eich cyfaddasrwydd am addysg uwch.
  • Datganiad Personol - mae hwn yn un o'r rhannau pwysicaf o'ch cais gan all ddatganiad personol meddylgar ac wedi'i ysgrifennu'n dda gwneud i chi sefyll allan o'r dorf. Gall un gwael tanseilio cais a fyddai fel arall yn un da.

Does dim ffordd benodol i ysgrifennu datganiad personol a fyddai'n gwarantu derbyniad ar eich cwrs dewisol, ond, mae yna ganllawiau a fyddai'n eich helpu i ffocysu ar beth ddylech ac na ddylech chi gynnwys. Beth am i chi edrych ar ein 10 Awgrym Gorau ar Ysgrifennu Datganiad Personol cyn i chi ddechrau?

Cymwysterau

Bydd angen darparu tystysgrifau gwreiddiol cyn cofrestru trwy'ch Porth Ymgeiswyr. Mae angen i'r rhain fod yn dystysgrifau wedi’u sganio, ffotograffau neu electronig clir. 

Rhowch brawf o'ch cymwysterau wedi'u cwblhau trwy eu lanlwytho i'ch Porth Ymgeiswyr. Os ydych chi'n cael trafferth gwneud hyn, anfonwch nhw at admissions@glyndwr.ac.uk, gan nodi'ch enw llawn yn glir, y cwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano a'ch PID UCAS neu ID Myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam. 

Awgrymiadau ar gymryd llun clir

Rhowch y ddogfen ar wyneb gwastad, dal eich camera uwchben y ddogfen, ei leinio yn y gwyliwr a chymryd llun. Gwiriwch fod y llun yn glir ac nid yn aneglur a bod y ddogfen gyfan yn weladwy. Hefyd, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gysgodion na myfyrdodau (neu leiaf) - efallai y bydd angen i chi droi golau ymlaen neu i ffwrdd i gael y ddelwedd orau! Ailadroddwch ar gyfer pob un o'ch cymwysterau ac yna eu lanlwytho i'r Porth, yn ddelfrydol fel PDF cyfunol. 

Dyddiadau a dyddiadau cau

Am ran fwyaf o gyrsiau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, dylech gyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau ystyriaeth gyfartal (y ddydd Mercher olaf o mis Ionawr). Yn dilyn y dyddiad yma, gall y Brifysgol cau unrhyw gwrs sydd yn barod yn llawn.

Os mae'r dyddiad cau wedi pasio, y newyddion da ydi gall eich cwrs dewisol dal fod yn agored.

Cysylltwch gyda'n tîm mynediad am fwy o wybodaeth ac i ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael.