Beth ydi UCAS?

Mae UCAS yn fyr am “University and Colleges Asmissions Service”. Hwn ydi’r corff canolog sy’n prosesu ceisiadau ar gyfer cyrsiau llawn-amser is-raddedig ym mhrifysgolion a cholegau yn y DU.

Mae’n rhaid gwneud pob cais am fynediad i raddau llawn-amser, DipAU a graddau sylfaenol ar lein drwy UCAS.

Faint mae’n costio i wneud cais trwy UCAS?

Gallwch ddewis gwneud cais am hyd at bump cwrs gwahanol trwy UCAS.

Os ydych yn dewis un cwrs mewn un prifysgol neu goleg yn unig, mae’r ffi yn £13. Os ydych yn rhoi mwy nag un dewis yn y rhan cyrsiau, bydd ffi eich cais yn £24.

Sut ydw i’n gohirio fy mynediad?

Gall ohirio eich lle am flwyddyn fod yn bosib, yn dibynnu ar pa cwrs rydych yn gwneud cais am. Nid ydym yn derbyn ceisiadau wedi’u gohirio am Therapi Galwedigaethol, Gwaith Cymdeithasol neu Ffisiotherapi er enghraifft. Os ydych yn dymuno gohirio eich cais am unrhyw un o’n cyrsiau eraill, cysylltwch â enquiries@glyndwr.ac.uk i drafod eich opsiynau.

Beth ydi ystyr 'Yn amodol i ddilysu'?

Fel rhan o’i brosesau gwella a sicrwydd ansawdd parhaus, mae’r Brifysgol yn datblygu cyrsiau newydd a diweddar. Mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o’u cwblhau ac yn disgwyl eu tro yn y cylch cymeradwyo, a elwir y broses 'dilysu'. Cyn gynted geith y rhaglenni eu dilysu, ceir manylion y cyrsiau eu cadarnhau.

Ceir y rhan fwyaf o gyrsiau sydd dal 'yn amodol i ddilysu' eu cymeradwyo yn eu prosesau dilysu; ond, nid yw hyn yn warantiad ac os na fydd cwrs yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd, neu ei fod wedi’i newid yn sylweddol, fe gewch chi wybod gan y brifysgol ac fe roddwyd cymorth i’r rheini sydd wedi derbyn cynnig am le i gael hyd i gwrs addas arall unai ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam neu mewn ddarparwr arall.

Beth ydi ystyr 'Yn amodol i ail-ddilysiad'?

Pan geith gwrs ei hail-ddilysu, mae hefyd rhaid iddo dderbyn ail-hachrediad. Mae hefyd rhaid adnewyddu achrediad yn gyfnodol ar gyrsiau presennol. Mae’r manylion ar y wefan yn seiliedig ar achrediad y fersiwn blaenorol neu gyfredol o’r cwrs, ac ceir ddiweddariadau a ragwelir eu gwneud cyn gynted ag y gwyddom amdanynt.

Cerir y rhan fwyaf o gyrsiau sydd dal ‘yn amodol i ail-hachrediad’ eu cymeradwyo fel y ddisgwylir, ond, nid oes warantiad ar hyn ac os na cheith yr achrediad ei gymeradwyo fel y cynlluniwyd, neu os oes newid sylweddol neu oediad, fe gewch chi wybod gan y brifysgol. Bydd y cwrs yn dal i redeg, ond fe roddwyd cymorth i’r rheini sydd wedi derbyn cynnig am le i gael hyd i gwrs addas arall unai ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam neu mewn ddarparwr arall os ni ddymunwyd ymgeisydd i barhau heb achrediad.

Beth ydi ystyr achrediad?

Mae rhai o gyrsiau'r brifysgol wedi'u hachredu gan gyrff allanol, a elwir yn CPSRau - Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol. Mae cyrsiau achrededig gan rai sefydliadau yn rhoi'r cyfle i chi ddod yn aelod o'r corff proffesiynol yna pan ydych yn graddio, ac mae rhai yn rhoi'r cyfle i chi dderbyn cymhwyster proffesiynol mewn meysydd penodol, fel gwaith cymdeithasol neu nyrsio. Unwaith mae cwrs wedi'i dilysu, gall y Brifysgol gwneud cais am achrediad, ond mae'n rhaid i'r CPSR ei gymeradwyo drwy brosesau ei hun, heb fedru ei warantu, felly nid ydym yn hysbysebu unrhyw achrediad newydd nes eu bod wedi'u cadarnhau am y tro cyntaf.

Oes angen i mi ddatgelu euogfarn droseddol berthnasol?

Ar y ffurflen gais ar-lein, byddwch ond yn gofynnir cwestiwn am euogfarnau troseddol os ydych chi'n gwneud cais am gwrs sy'n gofyn am GDG. Os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen gais bapur, dylech dim ond ateb y cwestiwn yma os ydych yn gwneud cais am gwrs sydd angen gwiriad GDG fel rhan o'r amodau mynediad. I ddarganfod os ydi'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano angen gwiriad GDG neu ddim, edrychwch ar anghenion mynediad y cwrs neu cysylltwch ni ar enquiries@glyndwr.ac.uk. Os NAD OES angen i chi dderbyn gwiriad GDG ar eich cwrs, gadewch y cwestiwn hwn yn wag ar y ffurflen bapur.