Mae ceisiadau trwy UCAS ac yn syth drwy’r Brifysgol angen i chi ddatgan os oes gennych unrhyw euogfarn droseddol “perthnasol”, os ydych yn gwneud cais am gwrs sydd angen gwiriad GDG fel rhan o'r amodau mynediad.

Gallwch weld ein Dull Gweithredol am Fynediad i Gyrsiau sydd angen GDG ac o Ymgeiswyr gydag Euogfarnau Troseddol ar ein tudalen Polisïau Mynediad.

Cyrsiau sydd angen Gwiriad GDG

Os ydych yn gwneud cais ar gwrs ble mae angen GDG, dylech ddewis OES os ydych erioed wedi derbyn euogfarn, hyd yn oed os ydych wedi’i darfod.

Ble ddynodwyd yn y prosbectws neu ar hyd y wefan, gall rhaglenni/cyrsiau penodol gynnwys yr hawl i weld plant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, a elwir hefyd yn weithgareddau rheoledig. Ble mae hyn yn bod, bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd â gwiriad GDG. Bydd y Brifysgol yn gyrru cyfarwyddiadau pellach ar ymgymryd â gwiriad GDG fel rhan o’r broses mynediad.

Cewch gyflwyniad i'r gwiriad GDG yma.

Gallwch ddarllen Cod Ymarfer y GDG yma.

Am arweiniad pellach, edrychwch ar y wybodaeth a ddangosir yn y rhaglen/cwrs neu cysylltwch â’r Tîm Mynediad ac Ymholiadau.

Euogfarnau Troseddol a Recriwtio Cyn-droseddwyr

Gellir dod o hyd i Weithdrefn a Pholisi’r Brifysgol ar gyfer Ystyried Euogfarnau Troseddol yma, sy’n amlinellu sut yr asesir ymgeiswyr sy’n datgan euogfarn(au) troseddol yn briodol i bennu eu haddasrwydd ar gyfer cael eu derbyn i’r Brifysgol/ar leoliad. Mae gan y Brifysgol ddatganiad polisi ar ymrestru cyn-droseddwyr hefyd.

Gwiriadau hunaniaeth GDG

Pan fyddwch wedi gwneud cais am wiriad GDG, bydd gofyn i chi gadarnhau eich hunaniaeth. O ganlyniad i’r cyfyngiadau coronafeirws presennol, cynhelir gwiriadau hunaniaeth drwy fideo-alwad mewn cydweithrediad â’n partneriaid Atlantic Data. Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut mae trefnu eich fideo-alwad gydag Atlantic Data drwy e-bost, fel rhan o’ch proses ymgeisio. Yn ystod yr alwad, bydd gofyn i chi ddangos copïau GWREIDDIOL o’r dogfennau hunaniaeth a ddewisoch pan wnaethoch gwblhau eich cais. Rhaid i’r rhain fod yn wreiddiol - os nad oes gennych y copïau gwreiddiol bydd angen i chi aildrefnu eich apwyntiad.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau e-bostiwch DBS@glyndwr.ac.uk