Rydym yn anelu i wneud y broses o wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam mor llyfn a syml a sy’n bosib

Ar gyfer pob cwrs llawn-amser israddedig sy’n dechrau ym mis Medi, dylai myfyrwyr y DU gwneud cais drwy UCAS.

Dylech gyflwyno cais trwy ein ffurflen ceisiadau uniongyrchol os ydych:

  • Yn gwneud cais ar gyfer cwrs rhan-amser israddedig;
  • Yn gwneud cais ar gyfer cwrs addysgol ôl-raddedig;

Mae dolenni i'r ffurflen gais ar-lein ar gael trwy ein tudalennau cwrs unigol. 

Yn y rhan cymwysterau o’ch cais, rhestrwch eich cymwysterau i gyd os gwelwch yn dda, drwy ddangos yn glir y teitl llawn, lefel, corff dyfarnu a chanlyniad o bob cymhwyster (fel y dangosir ar eich tystysgrif) er mwyn osgoi unrhyw oediad ym mhrosesu a chysidro eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth yn llenwi’r ffurflen, cysylltwch ag aelod o’r tîm mynediad ar 01978 293439 neu E-bostio enquiries@glyndwr.ac.uk

Pa bynnag ffordd ydych yn gwneud cais, bydd angen i chi roi datganiad personol. Dylech datganiad personol fod hyd at 4000 o lythrennau (tua 500 o eiriau) gyda lleiafswm o 1000 o lythrennau (tua 150 o eiriau). Cymerwch olwg ar awgrymiadau’r Rheolwr Mynediad yma: