Mae Covid-19 a’r mesuriadau sydd wedi’u cymryd i atal ei ledaeniad wedi newid bywydau ni i gyd. Efallai rydych:
wedi mynd ar y Cynllun Cadw Swyddi neu hyd yn oed wedi’ch diswyddo ac yn edrych am gymhwyster i uwchsgilio cyn chwilio am faes newydd
eisiau ail-hyfforddi am swydd gallwch wneud o adref
yn gweithio o adref, ond wedi sylweddoli eich bod yn casáu eich swydd gan nad oes gennych eich cydweithwyr na chymudo i dynnu’ch sylw
eisiau astudio pwnc mewn mwy o ddyfnder
yn chwilio am her newydd neu hobi i roi ychydig o ffocws i’ch hunain
Beth bynnag ydi’ch sefyllfa, mae gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam y cwrs i chi.
Peirianneg a chynhyrchiad
Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru enw da am werth o weithwyr peirianneg a chynhyrchiad gyda sgiliau da. Os ydych yn edrych i ffurfioli’ch hyfforddiant drwy gymhwyster, uwchsgilio, neu drwy ddod yn broffesiynol yn eich maes, mae gennym ni’r cwrs i chi.