Rydym yn adnabod y rôl byddwch yn chwarae i helpu dewis y brifysgol gorau ar gyfer eich mab neu ferch. Nid yw’r trawsnewid o ysgol neu goleg dim ond yn heriol i fyfyrwyr, ond i rieni hefyd.

Rhan fwyaf o’r amser byddent yn sefyll ar draed eu hunain am y tro cyntaf, felly mae’n bwysig i chi wybod byddem yn eu cefnogi o’r adeg maent yn cyrraedd tan maent yn graddio a thu hwnt, fel maent yn mynd i mewn i’r byd gwaith a dilyn eu gyrfa ddewisol.

Mae ein campws yn adnabyddus am ei awyrgylch cyfeillgar a theuluol ble fydd eich plentyn yn enw, nid rhif. Mae gan Wrecsam a’r ardal leol rhywbeth i bawb, boed hynny’n chwaraeon, bywyd nos, diwylliant, ac awyr agored gwych.

Yn y rhan Darganfod Mwy isod gallwch ddarganfod am wasanaethau cymorth myfyrwyr y brifysgol sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â darllen y blogiau diweddar wedi’u hysgrifennu ar gyfer rhieni/gwarchodwyr neu ofalwyr. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn gwybodaeth drwy e-bost er mwyn i ni fedru’ch diweddaru chi gyda gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich mab neu ferch a byddwch yn derbyn ein Canllaw Rhiant a Gofalwr i’r brifysgol ar ôl cofrestru.