3 Cyngor i Fynd i’r Afael ag argyfwng Costau Byw

money in a jar

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd incwm gwario gwirioneddol aelwydydd yn gostwng yn 2022/23 fwy nag unrhyw flwyddyn arall ers dechrau cadw cofnodion (oedd yn 1956!). Ar hyn o bryd mae chwyddiant yn 6.2% a disgwylir iddo godi i bron i 9% erbyn diwedd y flwyddyn. Mae nwyddau cartref yn mynd yn fwy drud, mae cyfraddau llog yn codi, a biliau ynni yn cynyddu gan 53%; felly sut fedrwch chi warchod eich arian? Yn y blog yma byddwn yn archwilio tair ffordd y gallech chi arbed rhywfaint o arian.

 

1. Perchennog tŷ neu rentwr; Mae’n bwysig gweithredu nawr.

Rhentwyr; gan gynnwys myfyrwyr sy’n rhentu! Y rhent cyfartalog yng Nghymru yw £736 y mis calendr, a disgwylir iddo godi ymhellach. Sicrhewch eich bod yn cyllidebu’n ofalus gyda biliau ynni, treth y cyngor a phrisiau bwyd yn codi (cofiwch mai dim ond un rhan o gyfanswm y gost yw’r rhent ar adeilad). Os ydych am aros yn eich eiddo yn y tymor hir, ac nad ydych yn rhagweld y byddwch yn symud, efallai y byddai’n werth gofyn i gael pennu eich contract am flwyddyn, er mwyn i’ch rhent fod wedi ei osod ar gyfer y 12 mis nesaf. Yn olaf, os ydych yn ei chael hi’n anodd talu’ch rhent, peidiwch ofni trafod hyn gyda’ch Landlord, am y gwnânt yn aml ganfod ffordd sy’n deg ar gyfer y ddau barti.

Perchnogion tŷ; Gyda Banc Lloegr yn codi’r gyfradd sylfaen, a chynnydd pellach i ddod yn y dyfodol agos, os oes gennych chi forgais cyfradd penodedig sydd ar fin dod i ben, neu eich bod ar forgais cyfradd newidiol ar hyn o bryd, mae’n bwysig eich bod nawr yn ceisio cloi eich cyfradd. Dim ond pum mis yn ôl roedd cyfraddau yn llai na 1%, ond ar hyn o bryd mae’r bargenion gorau ar ~1.8%, sy’n golygu ar forgais o £150,000 byddech wedi arbed £800 y flwyddyn o gloi’n gynt. YN gyffredinol gall cynghorwyr morgais ar y gorau ddod o hyd i fargen sy’n gweddu’ch anghenion orau, felly codwch y ffôn!

2. Biliau ynni fampir?

Mae’n anodd osgoi’r cynnydd mewn prisiau ynni, fodd bynnag, gall lleihau’ch defnydd fod o gymorth mawr. Mae Nwy Prydain yn nodi y gall 23% o’r ynni y mae cartrefi ym Mhrydain yn ei ddefnyddio fod yn ganlyniad i eitemau trydanol sydd â’u plygiau yn y socedi ond heb fod ar waith! Ymysg yr eitemau sy’n tynnu fwyaf ar eich cyflenwad trydan pan yn segur ac sy’n gwneud eich bil trydan yn fwy drud mae gwefryddion gliniaduron, argraffwyr, systemau Hi-Fi, eich teledu yn segur yn hytrach na chael ei ddiffodd. Bydd diffodd y socedi yma yn y wal yn rhoi hwb i’ch waled gan hyd at £259 y flwyddyn, a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd! Nodyn sylw: mae’r ardaloedd astudio addas ar gyfer myfyrwyr a’r llyfrgell sydd gennym ar y campws yno am reswm - felly defnyddiwch nhw!

3. Tanwydd a Bwyd; mae pob ceiniog o bwys.

Mae pawb yn gwybod bod coginio tra yn y brifysgol yn gallu bod yn dasg lafurus, ond mae’n llawer mwy cost-effeithiol na mynd allan i fwyta neu brynu cludfwyd. Gall coginio eich prydau ymlaen llaw mewn swp a defnyddio’r rhewgell i’w storio arbed mwy nag £20 yr wythnos drwy leihau gwastraff bwyd a’ch rhwystro rhag prynu yn fyrbwyll mewn siopau!

Ydych chi’n gyrru i’r brifysgol ac yn ôl adref? Gostyngodd Rishi Sunak y dreth ar danwydd gan 5c y litr yn natganiad diweddar y gwanwyn. I arbed mwy o arian ar y pympiau petrol, mae’r RAC yn argymell gyrru’n fwy darbodus, h.y. rhwng 45-55 milltir yr awr, er mwyn ichi gael mwy o filltiroedd yr awr o’ch petrol. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch amgylch er mwyn ichi fedru osgoi, os yn bosib, am fod angen mwy o danwydd i symud pwysau cychwynnol y car! Gallai hyn gynyddu effeithlonrwydd eich tanwydd gan 10-15%. Ond wrth gwrs, gyrrwch yn gyfrifol!

Pam PGW?

Bydd astudio gradd Cyfrifeg a Rheoli Cyllid yn PGW o gymorth i adeiladu sgiliau mewn meysydd megis, rheolaeth ariannol bersonol a busnes, datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn gyfrifydd siartredig, a’ch helpu i lamu i’r cam nesaf ar yr ysgol yrfa. Cymerwch y cam nesaf; archwiliwch ein cyrsiau israddedig ac ôl-radd i ganfod yr un ar eich cyfer chi. Mae’n bosib hefyd yr hoffech chi gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau byr, i gael rhagflas i’ch helpu i ddatblygu ymhellach, ar lefel bersonol a phroffesiynol.

 

Ysgrifennwyd gan Robert Leigh, Arweinydd Rhaglen a Darlithydd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Noder: Mae’r holl safbwyntiau a rennir yn y blog hwn yn perthyn i’r awdur, ac mae’n bosib nad ydynt yn adlewyrchu barn Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.