A allai hyfforddi ein hymennydd nawr, ein hamddiffyn yn seicolegol hwyrach mewn bywyd?

hands playing rubiks cube

Mae’n hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Hyfforddi eich Ymennydd!

Fel Niwrowyddonydd Gwybyddol mae gen i ddiddordeb mewn sut mae ein hymennydd ni’n gweithio, sut rydym yn prosesu gwybodaeth ddaw o’r byd, a sut rydym yn dysgu. Mae ein hymennydd yn bethau hydrin, hyblyg, ac rydym yn gallu dysgu bron unrhyw beth y penderfynwn ni. AR UNRHYW OEDRAN! (Pauwels et al., 2018). Er ei bod hi’n wir fod plant yn dysgu yn gyflym iawn ac yn gallu cronni gwybodaeth, mae’n debyg, ar wib (Cantor et al., 2018), mae ein gallu i ddysgu sgiliau newydd ac ymarfer hen rai yn parhau i henoed (Santos Monteiro et al., 2017). Rydym yn galw gallu parhaus ein hymennydd i ddysgu ac addasu yn blastigrwydd. Plastigrwydd yr ymennydd yw’r hyn rydym yn ceisio’i ddefnyddio gydag ymyriadau hyfforddi’r ymennydd - rydym yn herio ein hymennydd i wneud cysylltiadau newydd a chryfhau hen rai.

Bu peth dadlau ynghylch rhai agweddau ar raglenni cyfrifiadurol ‘hyfforddi’r ymennydd’ sydd wedi tyfu’n aruthrol yn eu poblogrwydd tros y ddau ddegawd diwethaf. Yn 2014, cyhoeddodd grŵp o 70 o ymchwilwyr lythyr agored yn datgan mai ychydig fudd oedd i hyfforddi’r ymennydd. Rai misoedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd tua 133 o ymchwilwyr a chlinigwyr eu hymateb gan amlinellu’r dystiolaeth ymchwil oedd yn tyfu bod hyfforddi’r ymennydd yn effeithiol o ran gallu wybyddol. Mae’r ddadl yn hanu o sut rydym yn dosbarthu a diffinio beth yn union yn y lle cyntaf yw hyfforddi’r ymennydd. Nid oedd, neu nid yw llawer o’r rhaglenni gemau a ddatblygwyd gan y diwydiant gemau wedi eu goleuo digon gan ymchwil wyddonol, er eu bod wrth gwrs yn llawn hwyl! Ochr arall i’r geiniog, mae rhaglenni eraill, sydd yn cael eu disgrifio’n amlach fel rhaglenni hyfforddi gwybyddol, wedi eu seilio ar astudiaethau gwyddonol trylwyr, ac maent wedi eu dylunio i fod yn heriol ac yn mynd i’r afael â galluoedd gwybyddol. Mae hyfforddi’r ymennydd cyfan ar yr un pryd, neu obeithio y daw gwelliant ar draws parthau lluosog, yn annhebygol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, oherwydd yr hyn welwn ni fel rheol yw gwelliannau dim ond mewn un sgil/tasg benodol sy’n cael eu hymarfer (i ddarllen yr adolygiad gweler Simons et al., 2016)

Beth mae hyn yn ei olygu?

Wel, nid yw’n golygu bod ymarfer eich ymennydd yn wastraff amser. Mae arbenigedd mewn parthau lluosog ac addysg gyson, gydol-oes yn ffactorau sy’n cael eu cysylltu â gwell cadwraeth wybyddol wrth i bobl heneiddio (Christie et al., 2017). Yr hyn y mae hynny’n ei olygu yw, ar gyfer y bobl yma, mae’n bosib bod eu hymennydd yn fwy hydwyth a hyblyg ac o bosib yn llai agored i ddirywiad gwybyddol. Yr hyn sy’n allweddol yw bod eich ymennydd yn cael ei herio – dod o hyd i’r pwynt hwnnw ble mae diddordeb, cymhelliad, a her yn digwydd ar draws parthau lluosog (Valenzuela, 2019).

Beth fedrwch chi wneud? 

Ailgydiwch mewn offeryn cerdd sydd wedi hen fod yn segur, dysgwch iaith newydd, neu rhowch gynnig ar chwarae gwyddbwyll. Rhywbeth, unrhyw beth sydd yn heriol ac yn fwy cymhleth na’r pethau dyddiol arferol. Neu fe allech chi ystyried datblygu eich addysg gyda gradd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, lle byddwch yn ennill sgiliau allweddol mewn cynllunio ymchwil a gwybodaeth am ystod eang o ddisgyblaethau seicoleg, gan gynnwys seicoleg wybyddol. Bydd y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu gyda gradd seicoleg yn eich rhoi ar lwybr tuag at rywbeth gwahanol ac o bosib (O BOSIB) gallant gynnig rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn dirywiad gwybyddol yn y dyfodol.

 

Ysgrifennwyd gan Joshua Payne, darlithydd Seicoleg Wybyddol.

 

Cyfeiriadau

  • Cantor, P., Osher, D., Berg, J., Steyer, L., & Rose, T. (2018). Malleability, plasticity, and individuality: How children learn and develop in context1. Applied Developmental Science, 23(4), 307-337. doi: 10.1080/10888691.2017.1398649
  • Christie, G., Hamilton, T., Manor, B., Farb, N., Farzan, F., & Sixsmith, A. et al. (2017). Do Lifestyle Activities Protect Against Cognitive Decline in Aging? A Review. Frontiers In Aging Neuroscience, 9. doi: 10.3389/fnagi.2017.00381
  • Pauwels, L., Chalavi, S., & Swinnen, S. (2018). Aging and brain plasticity. Aging, 10(8), 1789-1790. doi: 10.18632/aging.101514
  • Santos Monteiro, T., Beets, I., Boisgontier, M., Gooijers, J., Pauwels, L., & Chalavi, S. et al. (2017). Relative cortico-subcortical shift in brain activity but preserved training-induced neural modulation in older adults during bimanual motor learning. Neurobiology Of Aging, 58, 54-67. doi: 10.1016/j.neurobiolaging.2017.06.004
  • Valenzuela, M. (2019). Cognitive Reserve in the Aging Brain. Oxford Research Encyclopedia Of Psychology. doi: 10.1093/acrefore/9780190236557.013.338