ADENNILL EIN LLES: TEITHIO MEWN BYD WEDI C-19

Llai na deufis i mewn i gyfnod clo cyntaf y DU, cafodd Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adran Drafnidiaeth y DU, y dasg o gyflwyno un o’r sesiynau briffio enwog erbyn hyn o Stryd Downing. Fodd bynnag, roedd themâu’r sesiwn brifio yma yn wahanol iawn i’r arfer.

Doedd dim graffiau cymhleth, dim ystadegau, ac ychydig o rybuddion cyffredinol, yma roedd yn siarad am feicio a cherdded. Yn yr araith hon fe allech chi gael maddeuant am dybio bod teithio llesol i’r gwaith yn cael ei gyflwyno  rhywsut fel syniad newydd, a allai fod yn allweddol o ran mynd i’r afael â rhai o’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â C-19. Fodd bynnag, mae hyrwyddo cerdded a beicio wedi ei nodi yn fater polisi cenedlaethol ym Mhrydain ers dechrau’r 1990au. Er gwaethaf hyn, mae’r rhai hynny sydd â diddordeb agos yn y cysylltiadau rhwng cymudo drwy gerdded a seiclo – byddaf yn cyfeirio atynt fel teithio llesol o hyn ymlaen - a deilliannau iechyd wedi bod yn feirniadol o’r modd y mae llywodraethau olynol wedi esgus cynyddu Teithio Llesol, ond heb lwyddo hyd yn hyn i wneud newidiadau arwyddocaol ar lawr gwlad (mae beicio wedi cyfrif yn gyson am oddeutu 2% o holl deithiau tros y tri degawd diwethaf). Cyfrannodd yr araith hon felly, a’r cyhoeddiadau cyllido cysylltiol, at y gobaith y gallai dysgu byw gyda C-19 hefyd olygu y daw newidiadau i’r ffordd yr anogir rhai pobl i deithio.  

Pam, fel aelod o’n hadran iechyd a lles, ydw i’n siarad am y mater yma?

Mae’r buddion iechyd sy’n gysylltiedig â theithio llesol wedi eu dogfennu’n eang, gyda rhai astudiaethau yn dangos bod teithio llesol rheolaidd yn gallu helpu i dorri’r risg o bob canser gan hyd at 45%, ac afiechyd cardio-fasgwlaidd gan 46%. Hefyd, yn wahanol i ffurfiau ymarfer corff mwy cystadleuol ac egnïol, fel gemau tîm cystadleuol, mae teithio llesol yn hygyrch i lawer, mae’n rhad, ac nid yw’n tarfu cymaint ar ein ffordd arferol o fyw. Mewn gwirionedd, mae’n rhywbeth y gellir ei ffitio i mewn i’n trefn feunyddiol, sef ein taith ddyddiol i’r gwaith. Am y rhesymau yma, mae Prif Swyddogion Meddygol wedi awgrymu o’r blaen y gallai mwy o deithio llesol fod yn gonglfaen ar gyfer newid yn y boblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Wrth gwrs, tu hwnt i effeithiau ar iechyd, sydd o bosib yn haws eu gwerthuso, mae yna hefyd lu o elfennau llesiant sy’n gysylltiedig â theithio llesol i’r gwaith, gan gynnwys mwy o gysylltiad â byd natur, treulio ‘amser o safon’ gyda ffrindiau a theulu, a pheidio â treulio amser mewn cerbydau modur!

O ychwanegu elfennau cadw pellter cymdeithasol teithio llesol i’r darlun a ddisgrifir uchod, nid yw’n syndod o bosib i deithio llesol gael ei hyrwyddo mor gryf fel ymyriad i helpu gydag adfer o effeithiau C-19. Mae llywodraethau olynol dro ar ôl tro wedi cyhoeddi polisïau teithio llesol, ond efallai mai’r pecyn gafodd ei ddisgrifio gan Grant Shapps y llynedd oedd y mwyaf cynhwysfawr inni ei weld erioed yn y DU. Cafwyd ymrwymiad i gytundebau gwerth sawl miliwn ar draws awdurdodau, awgrymiadau y byddai Meddygon Teulu yn cael eu cefnogi i ragnodi beiciau, ac awydd i ddiweddaru a gwella’r canllaw sy’n cael ei ddanfon ar hyn o bryd i sefydliadau cludiant.  Wrth gwrs, roedd y cyllid oedd yn cael ei ddisgrifio fel rhan o’r pecyn yma ar gyfer Lloegr yn unig, ac mae gan Gymru ei phot ei hun ar gyfer teithio llesol.  Gellid dweud mewn gwirionedd bod rhai awdurdodau yn ceisio dal i fyny gydag awdurdodau yng Nghymru, am iddi fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru ers 2013 i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ffactor sydd yn cyfyngu’n fawr iawn ar hyn wrth gwrs yw cyllido, ond mae’r araith y cyfeiriaf ati yn y blog yma yn cynnig gobaith efallai y gallai hyn ddigwydd fwyfwy yn y blynyddoedd i ddod. Nid fu llywodraeth Prydain erioed o’r blaen mor gyhoeddus eu cefnogaeth tuag at gerdded a beicio.

Yn dilyn ymlaen o’r araith hon fe welsom ni lawer o drefi a dinasoedd yn mabwysiadu mesurau teithio llesol dros dro. Roedd hyn yn cynnwys palmentydd estynedig a llwybrau beicio dros dro. Yn anecdotaidd, cafodd y rhain dderbyniad da yn ystod y cyfnod clo wrth i lawer o bobl fynd ati i feicio neu gerdded fel ffordd o fod allan o’r tŷ. Yr hyn sy’n allweddol yw a wnaiff yr archwaeth yma barhau wrth inni symud tuag at ‘normalrwydd’, neu a fydd pobl yn dyheu am eu ceir unwaith yn rhagor.  

Rwy’n cloi’r blog yma drwy ddweud er bod teithio llesol yn rheolaidd i’r gwaith yn cynnig cryn dipyn o fuddion iechyd (gyda rhai astudiaethau yn dangos bod angen i’r rhai hynny sydd bron â bod yn gyfan gwbl segur wneud dim ond 15 munud y dydd i weld effeithiau gwirioneddol ar eu hiechyd), mae llawer o faterion logistaidd i’w hystyried hefyd, ac mewn rhai achosion, materion diogelwch. Nid yw at ddant bawb, ac mae’n ddibynnol ar y dasg. Ond gyda thua thraean o’n tripiau yn rhai sydd yn ddwy filltir neu lai, mae’n eithaf posib y gall hyn fod yn ffordd wych o ddod â gweithgaredd corfforol, hamdden (?), a hwyl i’n bywydau. Does dim rhaid i’r beic (neu’r esgidiau ar eich traed!) fod yn rhai ffansi, does dim rhaid i’r daith fod yn un hir, ac yn wir i chi, does dim rhaid ichi wisgo lycra. Mae seiclo at gyfer pawb, ac mae llywodraethau, awdurdodau lleol, a chyflogwyr yn dechrau sylweddoli hyn.

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Tîm Iechyd a Lles PGW i adennill lles. Darllenwch y diweddaraf am yr ymgyrch drwy ein dilyn ni ar Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth

 

Ysgrifennwyd gan Chris White. Mae Chris yn ddarlithydd Iechyd, iechyd meddyliol a lles.