ADENNILL LLES: DAWNSIO A DYSGU COREOGRAFFI I WELLA LLES

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn ryfedd. Er fy mod i wedi parhau i wneud ymarfer corff drwy gyfrwng zoom, neu fynd i redeg gyda ffrind gan gadw pellter cymdeithasol, dydw i ddim wedi gallu mwynhau fy chwalwr straen arferol, sef fy nosbarthiadau dawnsio. 

Yn ystod y cyfnod clo dros fisoedd y gaeaf mi deimlais i fy nghymhelliant yn dirywio. Mae’n hawdd ‘smalio’ eich symudiadau ymarfer corff o flaen sgrin gan wybod mai prin y gall yr hyfforddwr eich gweld chi. Mi sylweddolais yn fuan mai’r hyn roeddwn i’n ei fethu oedd nid dim ond ochr gymdeithasol fy nosbarthiadau ymarfer corff ond hefyd yr heriau sy’n dod o ddysgu trefn ddawns newydd. Mewn dosbarth dawns rydw i’n ymgolli ac yn teimlo fy mod yn cael fy adfywio. Rydw i’n teimlo bod fy ymennydd i, yn ogystal â’r corff wedi eu glanhau o’r holl orchwylion dyddiol. Dydy gwneud dim ond aerobeg, dawns-ffit, crensio calorïau, HIIT a cardio-cic ddim yn taro’r marc i mi. Roedden nhw’n fy nghadw i fynd yn gorfforol, ond nid yn feddyliol. Roedd angen dawnsio arnaf i.

Mae’r wythnosau ddiwethaf 'ma wedi bod ychydig yn wahanol. Mae’r stiwdio ddawns ble rydw i’n mynd wedi ailagor ei drysau. Rydw i wedi bod yn ôl yn gwneud dosbarthiadau gyda phobl, pobl go iawn, ac nid sgrin o bobl. Mae’n teimlo’n od am fod gennym ni ein blychau ein hunain wedi eu marcio ar y llawr i ddawnsio ynddyn nhw. Ches i erioed gymaint o le o’r blaen! Fel arfer rydym ni wedi ein gwasgu i mewn i’r stiwdio, ond nid ar yn o bryd, mae’r niferoedd wedi eu cyfyngu oherwydd rheoliadau covid felly mae gennym ni fwy o le i symud. Felly bron â bod yn normal dybiwn i. Mae llawer yn dewis gwneud eu dosbarthiadau ar-lein. Rwy’n deall hynny. Mae bod yn y stiwdio yn gam mawr. Ond mae’n fy siwtio i. Rydw i’n gweithio’n galetach. Rydych yn teimlo eich bod chi yn ei chanol hi, ac mi rydw i wedi sylwi nid dim ond fy mod i’n gweithio’n galetach, ond rydw i’n teimlo’n llawer gwell ar ddiwedd y dosbarth. Rydw i’n teimlo’n hapusach. Rydw i’n teimlo mwy fel fi, cyn y pandemig.

Hyd yn hyn rydw i wedi llwyddo gwneud un dosbarth dawnsio ballet ochr yn ochr â’r dosbarthiadau ffitrwydd. Rydw i’n bell o fod yn Margot Fonteyn neu Darcey Bussell, ac felly does gen i ddim eu gosgeiddigrwydd, ond rwy’n hoffi’r cynefindra o wneud pliés, pirouettes a port de bras ac esgus bod yn brif falerina. Rydw i’n adnabod y symudiadau yma. Mi roeddwn i’n dawnsio’n blentyn ac mae’r cof yn y pen ac yn y cyhyrau. Doedd dim gwaith coreograffi i’w ddysgu, ond mi roeddwn i’n teimlo bod fy enaid wedi ei buro pan wnes i’r dosbarth yna. Mewn ballet mae’n rhaid ichi sefyll yn y ffordd gywir a chofio llawer ar gyfer un symudiad syml. Wrth ichi weithio drwy’r port de bras, dydych chi ddim yn unig yn symud eich breichiau, rydych yn perfformio gyda nhw, gyda’ch corff, eich wyneb a hefyd yn ceisio cofio anadlu a chadw’ch cydbwysedd gyda’r symudiad. Yr amser hwnnw, wrth feddwl am sut i osod braich, ongl y pen, sydd yn eich cludo ymhell o feddwl am unrhyw beth arall. Rydych chi hefyd yn teimlo’r gerddoriaeth yn golchi drosoch chi, sydd yn eich helpu i greu’r gofod i fod yn ddigynnwrf. Mae troi fy meddwl at symud yn osgeiddig (neu o leiaf ceisio edrych yn osgeiddig) yn gwneud imi deimlo’n hapus, ac wrth gwrs mae ballet yn wych ar gyfer yr osgo, gwneud y cyhyrau yn hirach, creu cryfder a’m cadw yn egnïol, cadw fy meddwl yn egnïol, sydd yn beth gwych o ran lles cyffredinol.

Ymlaen at ddysgu coreograffi. Mae hynny’n dechrau nawr. Mae’r dosbarth Ffync Trefol (neu Urban Funk) ar fin ailddechrau. Rydw i wedi cyffroi’n ulw â dweud y lleiaf! Rydw i hefyd braidd yn bryderus. Dydw i ddim wedi gorfod meddwl am ddysgu dawns newydd ers mis Medi’r llynedd, pan ddaeth Ffync Trefol yn ôl i’r stiwdio am gyfnod byr o ychydig fisoedd. Mae Ffync Trefol mor wahanol i ballet. Mae’n fwy rhydd. Rydym ni gyd yn esgus bod yn Diversity pan rydym yn dawnsio yn ein dosbarth Trefol. Ydan ni’n dda o gwbl? Pwy a ŵyr, ond cyn i’r pandemig gydio, fe ddaethom ni’n 1af yn adran dawnsio dull rhydd i oedolion mewn cystadleuaeth ddawns genedlaethol gyda’n dawns Ffync Trefol ac yn 4ydd yn gyffredinol yn y gystadleuaeth i gyd (fe ddaethom ni’n ail gyda’n dawns sioe i One Night Only) felly mae mynd yn ôl at ddawnsio gyda’r tîm yn bwysig oherwydd yn amlwg, roeddem ni’n gwneud rhywbeth yn iawn. Mae’n rhaid inni anelu at ddod yn gyntaf unwaith eto pan gawn ni gystadlu.

Mae dysgu coreograffi newydd hefyd yn gadael i’r meddwl ganolbwyntio ar ddim byd arall ond y symudiadau sy’n cael eu dysgu a’u cysylltu â’i gilydd. Rydw i’n teimlo’n rhwystredig os ydw i’n gwneud rhywbeth yn anghywir – sy’n digwydd yn aml – ond ar ôl ei hoelio hi, fe glywch chi fanllefau o ddiléit ac mae’r teimlad yna yn anhygyoel. Mae’n gwenud imi deimlo’n hapus. Mae’n gwneud imi deimlo fy mod i wedi gwneud rhywbeth sy’n dda o ran fy lles. Mae’n gwneud imi gofio bod dawnsio yn ffordd wych o wneud ymarfer corff. Does dim rhaid ichi wneud pethwmbreth o sgwatiau, ‘sit-ups’, ‘burpees’ neu naid seren. Dylai ymarfer corff eich galluogi i fedru anghofio bywyd pob dydd a theimlo’ch bod wedi eich adfywio wedyn. Mae dawnsio yn gwneud hyn i mi. Mae normalrwydd yn araf ddychwelyd ac rwy’n hoffi’r ffaith bod y stiwdio yn ail-gyflwyno dosbarthiadau yn araf. Felly’r hyn rwy’n ei ddweud yw dewch o hyd i rywbeth sydd yn llawn hwyl ac sy’n rhoi mwynhad. Os ydych chi’n caru dawnsio, ymunwch â mi! Wedi’r cyfan rwy’n dwansio fel petai neb yn gwylio!

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Tîm Iechyd a Lles PGW i adennill lles. Darllenwch y diweddaraf am yr ymgyrch drwy ein dilyn ni ar Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth

Ysgrifennwyd gan Catherine Hewins, sy'n arwain y Diploma mewn Iechyd a Lles Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr ac mae'n uwch ddarlithydd ar y rhaglenni lles.