ADENNILL LLES: TOSTURI DEWR AC IECHYD Y CYHOEDD

Tros gyfnod y pandemig rydw i wedi dod i gydnabod ac ystyried tosturi dewr fel elfen, ac efallai yr elfen ganolog mewn system iechyd y cyhoedd effeithiol – a chymdeithas hapus ac iach yn fwy eang. Gadewch imi egluro pam. 

Tosturi a’r hyn sy’n ei wneud yn ddewr

Mae’n bosib bod tosturi yn rhywbeth yr ydym ni’n meddwl ein bod yn ei adnabod pan rydym yn ei deimlo, ond nad ydym ni erioed wedi meddwl mewn gormod o fanylder beth yn union ydyw. Mae tosturi yn golygu ‘teimlo dros berson arall’ ac mae’n rhagflaenydd empathi, sef ‘teimlo fel person arall’. Mae’n bosib bod y ddau beth yma yn aml yn cael eu cymysgu a’u cyfuno. Rydym hefyd yn meddwl am dosturi fel ‘pryder dros ddioddefaint neu anffawd eraill’. Yn y bôn, rydym ni fel bodau dynol yn gallu teimlo tosturi dros fodau eraill, gan gynnwys anifeiliaid, pan rydym yn eu gweld yn ofidus neu mewn poen, a hefyd yn gallu ymateb yn emosiynol ac yn gorfforol i’r boen. Yn ddiddorol, mae ymchwil yn dangos bod yr un rhan o’r ymennydd ar waith pan rydym yn dioddef poen ein hunain â phan rydym yn gweld eraill yn ei brofi! Mae’n ymddangos, felly, bod tosturi yn rhywbeth sy’n gynhenid inni.

Er gwaethaf hyn, mae’n ymddangos bod tosturi yn yr 21ain ganrif yn adnodd prin. Mewn llawer i fan o amgylch y byd, meddwl am yr hunan, yn hytrach nag eraill, yw’r norm erbyn hyn. Mae cymdeithasegwyr wedi galw hyn yn unigoleiddio cymdeithas; yn ôl y sôn mae pobl wedi eu rhyddhau o gyfyngiadau strwythurol traddodiadol fel eu bod bellach yn asiantau rhydd i fyw eu bywydau fel y mynnant. Yn fy ymchwil fi fy hun, mae rhieni wedi dweud wrthyf sut maen nhw ddyddiau yma wedi buddsoddi cymaint yn eu plant er mwyn eu cynorthwyo i sefyll allan a ‘chystadlu’ gydag eraill wrth iddyn nhw dyfu. Yn ogystal â ffactorau diwylliannol yn cyfrannu at brinder tosturi, rydym ni ein hunain yn aml yn codi rhwystrau ac yn gosod ‘cyfyngiadau’. Ar brydiau, mae’n ymddangos bod dioddefaint ac anffawd i’w cael ym mhobman ac os awn ni o amgylch y lle yn ‘teimlo’ a meddwl amdano yna mae’n eithaf posib y cawn ni ein llethu neu ein digalonni ganddo; mae’n naturiol inni fod eisiau amddiffyn ein hunain drwy gau ein hunain i ffwrdd. 

Mae’n ymddangos, felly, i fod â thosturi mae angen mynd yn erbyn y norm cymdeithasol a’n greddf i amddiffyn ein hunain; dyma pam bod tosturi, i mi, yn rhywbeth dewr. Ond pam fod tosturi yn bwysig? Beth yw’r cysylltiad ag iechyd y cyhoedd? A sut fedrwn ni fod yn dosturiol heb niweidio ein hunain?

‘Rydym ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd’

Mae’n debyg i bawb glywed y neges ein ‘bod ni oll yn hyn gyda’n gilydd’ ar ryw bwynt mewn perthynas â phandemig Covid-19; efallai iddo gael ei ddweud mewn sgwrs neu ar y cyfryngau, efallai mai slogan marchnata oedd o, wedi ei fabwysiadu gan eich archfarchnad, neu eich bod chi wedi clywed gwleidydd yn yngan yr un peth. Er bod rhai pobl a grwpiau o bobl wedi eu heffeithio’n anghyfartal gan y pandemig, mae’r teimlad, ‘ein bod ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd’, yn ddiamheuol. Yn y bon, mae bodau dynol yn ryngddibynnol. Os edrychwch chi o’ch amgylch nawr ar y gwrthrychau materol o’ch dillad i’ch ffôn - mae pob un o’r rhain mae’n debyg wedi eu creu drwy ymdrech nifer fawr o bobl eraill. Ar ben hynny, arhoswch funud i feddwl am bwy un union ydych chi - mae’n debygol eich bod yn ganlyniad i’r arweiniad, cymorth a charedigrwydd a roddwyd ichi gan eich teulu, ffrindiau, athrawon a dieithriaid tros gyfnod eich bywyd, yn ogystal â’r rhwystrau y daethoch ar eu traws a’u goresgyn. Mae dadl hirsefydlog a bywiog yn bodoli ynghylch i ba raddau y mae ‘pwy ydan ni’ yn ganlyniad i eneteg neu gymdeithasoli; mi fuaswn i’n dadlau tros uchafiaeth yr olaf - rydym ni gyd yn rhyng-gysylltiedig â’n gilydd, nid yn unig drwy’r adnoddau sydd eu hangen arnom i fyw - aer, dŵr, bwyd - ond hefyd drwy’r ffaith na fedrwn ni oroesi’n hir iawn heb gyswllt gyda bodau dynol eraill.

Mae cydnabod y rhyng-ddibyniaeth sylfaenol yma yn hollbwysig ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd. Wrth galon iechyd y cyhoedd mae pobl a’r ymdrech i sicrhau bod gan bawb yr adnoddau ar gyfer bywyd iach yn ogystal ag amddiffyniad rhag y pethau allai fygwth hynny. Yn hyn o beth, mae ymdrechion ymarferwyr iechyd y cyhoedd braidd yn anweledig - os yn llwyddiannus, nid yw afiechyd yn digwydd! Mae’r rhan fwyaf ohonom ni erbyn hyn yn mwynhau mynediad at ddŵr glân a glanweithdra sy’n ein hatal ni rhag profi colera ac afiechydon eraill oedd gynt yn lladd cymaint o bobl. Yn ddiddorol, erbyn hyn nid afiechydon heintus (er gwaethaf Covid-19) yw’r prif faterion iechyd y cyhoedd y mae angen i ymarferwyr fynd i’r afael â hwy; mewn gwirionedd ‘problemau drwg’ ydyn nhw, pethau fel anghydraddoldeb parhaus ac afiechydon ‘ffordd o fyw’. Mae’r rhain yn cael eu galw’n hyn oherwydd eu bod yn cael eu ‘hachosi’ gan ryngddibyniaeth hynod gymhleth rhwng grwpiau mawr o bobl - byd-eang mewn rhai achosion - ac felly mae gwneud rhywbeth yn eu cylch bron â bod yn amhosib. Mae newid hinsawdd yn enghraiff amlwg o hyn. Mae’n fygythiad enfawr (ac efallai y bygythiad mwyaf) i fywyd, ac mae wedi ei achosi gan eithredu dynol ar y cyd, a dim ond drwy weithredu dynol ar y cyd y mae modd mynd i’r afael ag ef. Felly beth am y cyd – sut mae tosturi dewr yn berthnasol i bob un ohonom?  

Tosturi dewr a lles

Tra bod nifer ohonom ni efallai’n blaenoriaethu ein hunain dros eraill ac yn gosod paramedrau ar gyfer y tosturi rydym yn fodlon ei roi, mae wedi ei sefydlu ers tro, yn anecdotaidd a thrwy ymchwil bod pobl fwy caredig a thosturiol yn tueddu i fod yn hapusach. Ond serch hynny mae cafeat pwysig i hyn; mae’n ymddangos bod cael dealltwriaeth gywir o realiti dioddefaint a thosturi yn bwysig iawn. Mae bywyd, yn ogystal â bod yn llawn llawenydd a harddwch, hefyd yn cynnwys dioddefaint ac anffawd. Fe wyddom ni hyn, ond yn tueddu i’w chael hi’n anodd ei dderbyn, gan gwestiynu ‘pam’ a meddwl na ddylai rhai pethau ddigwydd. Mae llawer ohonom hefyd yn gallu uniaethu gyda thosturi mewn ffordd adweithiol, yn hytrach na rhagweithiol. Er enghraifft, yn aml rwy’n disgyn i’r fagl o deimlo wedi fy llethu ac yn ddiymadferth pan rwy’n dyst i anffawd a dioddefaint mewn eraill. Fodd bynnag, rwyf wedi dod i sylweddoli mai’r hyn rwyf yn ei wneud yw ymateb i boen pobl eraill, a’i hidlo drwy’r ‘hunan’ a sut mae’n gwneud i mi deimlo. Pan fyddaf yn atgoffa fy hun nad yw dioddefaint eraill yn ymwneud â mi ac yn arddel y dymuniad rhagweithiol iddyn nhw fod yn rhydd ohono, nid yn unig y mae gennyf i fwy o dosturi i’w roi, ond rydw i fel arfer yn fwy abl i helpu pobl. Felly os yw tosturi yn fuddiol yn hytrach na niweidiol, sut mae mynd ati i’w feithrin?

Mae ymarfer tosturi wrth wraidd nifer o grefyddau’r byd, ac yn bwysig, mae’n ymddangos ei bod yn sgil y gellir ei meithrin. Mae un arfer Bwdhaidd a ddyluniwyd i ddatblygu tosturi yn ymwneud â chyfnewid yn feddyliol y dioddefaint a’r anffawd y mae eraill yn ei brofi gyda’n hapusrwydd ni ein hunain; mae’r ymarferydd yn cydnabod yn feddyliol y dioddefaint a’r anffawd yma ac yn cynnig eu hiechyd a’u lles eu hunain iddyn nhw heb ddymuno unrhyw beth yn gyfnewid! Mae’n rhaid bod hyn yn wrthgynhyrchiol o ran gwella lles, a bod ychwanegu problemau pobl eraill at ein rhai ni yn feichus. Yn ddiddorol, mae ymarferwyr yn tystio mai’r gwrthwyneb sy’n wir mewn perthynas â chanlyniad y cyfnewid hwn. Pan fyddwn yn ysgwyddo, yn trawsffurfio ac ymddatod yn feddyliol dioddefaint eraill drwy dosturi, mae’n chwalu mewn gwirionedd ein dioddefaint, yn hytrach nag ychwanegu ato, ac yn ein helpu i agor ein calonnau i eraill. Mae’r cyfnewid yma sydd o bosib yn mynd yn groes i’r hyn y byddai person yn ei wneud yn naturiol yn ein tynnu ni allan o’n myfyrio hunanol ar ein dioddefaint ein hunain a’r ymgolli yn y ‘fi, myfi a’r hunan’, sy’n ein gwneud yn anhapus. Mae’n ymddangos bod ymarfer tosturi yn rhywbeth ble mae pawb ar eu hennill!

Mae’r blog yma yn rhan o ymdrech Tîm Iechyd a Lles PGW i adennill lles. A allai ymarfer tosturi ein helpu i wneud hyn? Darllenwch y diweddaraf am yr ymgyrch drwy ein dilyn ni ar Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth

Ysgrifennwyd gan Dr Sharon Wheeler, sy'n arwain y rhaglenni BSc (Anrh) Iechyd Cyhoeddus a Lles ac MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles yn WGU.