ADENNILL LLES: Y PLESER SYDD I GYFEILLGARWCH

A allai meithrin cyfeillgarwch ein helpu adennill eich lles?

Roeddwn i’n byw dramor pan oeddwn i’n blentyn ac yn gweld fy nheulu ehangach (neiniau a theidiau, cyfnitherod a chefndryd ac ati) unwaith, efallai ddwywaith y flwyddyn. Roedd gen i gyfnither gyntaf oedd flwyddyn yn hŷn na mi ond doedden ni ddim yn tynnu ‘mlaen yn blant. Erbyn hyn mi fedraf i gyfaddef imi esgus iddi hi fy mrathu er mwyn i Taid ddweud y drefn wrthi hi (mi wnes i hyd yn oed frathu fy mraich fy hun yn ‘dystiolaeth’!).

Fodd bynnag, tua 12 mlwydd oed fe ddaethom ni’n ffrindiau agos ac roeddwn i’n treulio’r gwyliau haf gyda hi a’i ffrindiau yn cerdded o amgylch strydoedd Lerwick, Ynysoedd Shetland, ac yn sgwrsio yn ein llofftydd (gydag ambell i drip i’r disgo troed-rolio neu’r pwll nofio).

Yn 17 mlwydd oed fe symudais yn ôl i’r Alban (gan adael fy rhieni a’m brawd yn Nhaiwan) a’r cyfeillgarwch gyda fy nghyfnither a dwy o’r genethod eraill oedd y sylfaen ar gyfer adeiladu cyfnod nesaf fy mywyd. Yn ystod blynyddoedd olaf fy arddegau fe smentiwyd ein cyfeillgarwch gyda phrofiadau di-ri rhyngom ni - prifysgol, nosweithiau allan, ymweliadau â siopau coffi yn para 5 awr a phythefnos o wyliau anhygoel ar ynys Creta y daethom ni o hyd iddo ar teletext am £179 yr un!

Er imi wneud ffrindiau eraill dros y blynyddoedd does yr un wedi goroesi yn yr un ffordd, ac mae hyn am sawl rheswm.

Yn gyntaf, er ein bod ni’n ffrindiau da iawn dydyn ni ddim yn byw ym mhocedi ein gilydd ac erioed wedi gwneud hynny, hyd yn oed pan oedd hynny’n ddaearyddol bosib. Nawr mae un ohonom ni’n byw yn Awstralia, un yn Lloegr, a dwy ar Ynysoedd Shetland. Nid yw unrhyw gyfeillgarwch arall, mwy dwys, a myglyd ar brydiau, wedi para.

Yn ail, er bod gennym ni wahanol ddiddordebau, personoliaethau, gyrfaoedd a ffyrdd o fyw, dydw i erioed wedi cymharu na chystadlu yn erbyn fy ffrindiau. Yn hytrach nad bod yn genfigennus o’u llwyddiannau a’u rhinweddau maent wedi fy ysbrydoli a’m dyrchaf.

I mi, mae’n debyg mai’r trydydd rheswm tros ein cyfeillgarwch parhaus yw ein bod yn gwneud ymdrech i gysylltu gyda’n gilydd, hyd yn oed os yw’r bylchau weithiau’n rhy hir. Mae ein cyfeillgarwch wedi datblygu mewn ‘amser real’ gyda galwadau ffôn (neu hyd yn oed lythyrau!) rhwng dod at ein gilydd. Er ein bod ni bellach yn defnyddio galwadau fideo WhatsApp i gadw mewn cysylltiad nid yw’r un ohonom ni’n gefnogwyr mawr o’r cyfryngau cymdeithasol. Felly, does dim neges gyffredinol i bawb a lluniau yn lle cyfathrebu mwy personol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.

Mae’r genethod yma wedi bod yn gefnlen ar gyfer rhai o uchafbwyntiau ac adegau isaf fy mywyd ac maen nhw'r un mor barod i gydymdeimlo â mi ag ydyn nhw i ddathlu. Does dim ots os ydan ni’n crio neu’n chwerthin, yn mynd allan neu’n aros i mewn, yn sengl neu’n briod, plant neu ddim plant am fod degawdau o hanes sy’n gyffredin yn ein cysylltu ni a’n gosod yn syth ar yr un lefel. Fe wnaethom ni eistedd gyda’n gilydd mewn llofftydd yn siarad am ein gobeithio’n a’n breuddwydion, ac yna sefyll gyda’n gilydd wrth i’r pethau hynny gael eu gwireddu, helpu i godi’r darnau i fyny pan aeth pethau’n wahanol i’r disgwyl. Peidiwch â’m camddeall i, rydw i ar adegau wedi siarad neu ymddwyn tuag at fy ffrindiau mewn ffyrdd y gwnes i ddifaru, gan daflunio fy mhroblemau a’m hansicrwydd i fy hun arnyn nhw, ond fe wnaethon nhw fy neall i, a maddau imi.

Mae fy ffrindiau yn ‘angor’ a nhw yw’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd pan fo’r byd yn teimlo’n ansicr. Maen nhw’n fy adnabod i fel Nina - plentyn ag acen Americanaidd, merch yn ei harddegau yn gweithio mewn ffatri bysgod, rhywun yn ceisio ymdopi ag OCD, yn wraig, yn fam, darlithydd - ac am hynny oll ryw’n hynod ddiolchgar. Un o'r pethau mwyaf hyfryd am gyfeillgarwch yw nad oes angen gwneud argraff dda drwy’r amser, profi eich hun neu gynnig mwy - mae hyn yn teimlo fel noddfa mewn byd sy’n gofyn llawer.

Mae cyfeillgarwch yn rhodd fendigedig sy’n haeddu cael ei meithrin a’i thrysori - gall fod yno’n graig ichi pan fo popeth arall yn newid. I chi fy ffrindiau gydol oes, o waelod calon, diolch yn fawr - Heidi, Alison a Kristy.

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Tîm Iechyd a Lles PGW i adennill lles. A allai meithrin cyfeillgarwch ein helpu i wneud hyn? Darllenwch y diweddaraf am yr ymgyrch drwy ein dilyn ni ar Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth

 

Ysgrifennwyd gan Nina Patterson. Mae Nina yn ddarlithydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Meddwl a Lles yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.