ADFER AC ADNEWYDDU: AMGUEDDFA LLES

Mae’n anhygoel sut mae PETHAU yn hel. Rydw i wastad wedi ystyried fy hun yn berson eithaf da o ran mynd ati i glirio pethau allan yn rheolaidd, ond fe sylweddolais i’n fuan dros y cyfnod clo gymaint o bethau sydd gen i mewn droriau a chypyrddau, yn eistedd yno, yn cymryd lle. Felly, fel llawer i un arall, rydw i wedi bod yn gwneud ymdrech wirioneddol i gael trefn go iawn ar bethau. 

Mae’r broses yma o roi trefn ar bethau yn un od. Mae ‘na hyd yn oed raglenni a llyfrau sy’n dweud wrthym ni sut i fynd ati i wneud hyn (Ydy o’n ‘Tanio Llawenydd’?? Os na, yna allan â fo). Rydw i wedi sylw fy mod i’n rhoi pethau mewn dau gategori. Yn gyntaf - defnydd. Ydw i’n ei ddefnyddio fo’n rheolaidd? A fydda i’n ei ddefnyddio fo eto yn y dyfodol? Os ie, yna mae’n aros. Yna sentimentaliaeth, a faint ydw i’n ei hoffi yn gyffredinol, ac i mi mae hyn yn llawer anoddach. Mae gen i ganwyllbrennau ddaeth yn anrheg priodas, ac os ydw i’n onest, dydw i ddim yn eu hoffi nhw, ac eto…maen nhw’n dal i fod yno, yn eistedd ar y silff. Mae gen i luniau a llythyrau a wnaeth fy mhlant pan yn fach, a phethau rydw i wedi eu hetifeddu gan neiniau a theidiau, a phob math o wrthrychau eraill nad oes ganddyn nhw werth ariannol efallai, ond sydd wedi eu buddsoddi gyda theimladau ac atgofion. Ac i mi, dyma’r pethau sydd yn llawer anoddach cael gwared arnyn nhw.

Yn aml fe glywn ni ei bod ni’n byw mewn cymdeithas sy’n taflu pethau i ffwrdd, ac mae’n anodd dadlau gyda hyn, am y byddai unrhyw gip ar ystadegau tirlenwi yn cadarnhau hyn. Ond er gwaethaf hyn, mae’n ymddangos bod cadw gafael ar bethau arbennig y nodwedd gyffredin iawn. Mae gan lawer ohonom ni gypyrddau neu silffoedd yn y tŷ ble rydym ni’n arddangos gwrthrychau pwysig, ac ambell i dro mae hierarchaeth i hynny … Mae fy Nain er enghraifft yn gosod y pethau mae’n eu trysori’n fawr ar ei silff ben tân, gyda’r pethau llai pwysig mewn mannau eraill. O feddwl amdanynt fel yma, mae ein cartrefi ni yn dod yn amgueddfeydd neu orielau, wedi eu curadu gennym ni.

Mae’n ymddangos bod pwysigrwydd gwrthrychau, yn enwedig ailwampio ac adnewyddu hen wrthrychau, wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y pandemig. Efallai bod hyn yn rhannol oherwydd yn sydyn reit y llynedd fe ddaeth hi’n anodd cael gafael ar bethau newydd. Mae gen i gof o geisio archebu nwyddau crefftau cartref a doedden nhw ddim ar gael…felly roedd rhaid inni wneud gyda beth oedd gennym ni yn y tŷ. Cymrwch raglen deledu fel The Repair Shop, sydd bellach mor boblogaidd nes ei bod hi wedi symud i slot amser brig. Mae pleser pendant i’w gael o wylio crefftau sy’n gysylltiedig ag adfer hen bethau, ond efallai mai hanfod y rhaglen yw gweld yr ystyr sydd y tu ôl i’r gwrthrychau yma sydd wedi eu hadnewyddu (ac ambell i ddeigryn ar y diwedd hefyd). Mae’n debyg eu bod nhw’n dal atgofion a theimladau mewn ffordd sydd yn cysylltu’r person yna gyda phobl, mannau ac adegau eraill, yn wahanol iawn i rywbeth sydd efallai yn ddisglair a newydd, ond yn amddifad o ystyr.

Nid yw’r syniad y gall gwrthrychau ein helpu ni drwy adegau anodd yn un newydd. Mae’n bosib y bu gennych chi, neu rywun rydych yn eu 'nabod, dedi neu garthen pan oeddech chi'n blentyn oedd yn mynd i bob man gyda chi, ac oedd mor bwysig y byddai’n peri tristwch mawr petai’n mynd ar goll (neu hyd yn oed gael ei olchi). Ysgrifennodd Donald Winnicott yn y 1970au am y ‘gwrthrychau trosiannol’ yma, sydd yn gallu ffurfio cyswllt rhwng y plentyn a’r byd y tu allan, a’u helpu i ymdopi â phryder. Felly efallai nad oes gan ystyr gwrthrychau lawer i’w wneud â’r defnydd ohonynt, na gwerth ariannol, ond yn hytrach mae wedi ei rwymo’n agos gyda’n teimladau, a phwy ydym ni fel pobl. Ac mae modd adennill ac adfer llawer o’r gwrthrychau yma, a hefyd felly ein lles, hyd yn oed os ydy o braidd yn rhydlyd neu lychlyd neu wedi ei guddio’n rhywle.

Fel rhan o’n cyfres ar adfer lles, mae’r Tîm Iechyd a Lles wedi bod wrthi’n myfyrio ar wrthrychau (neu hyd yn oed gysyniadau) y byddem ni’n eu rhoi yn ein ‘Amgueddfa Lles’ rithiol. Dydyn ni ddim yn hawlio bod unrhyw beth tebyg i Stephen Spielberg, ond rydym ni wedi recordio fideos byr yn trafod ein heitemau. Edrychwch ar straeon Instagram PGW @glyndwruni am eu premier byd!

Byddem ni wrth ein bodd petaech chi’n cymryd rhan hefyd. Beth fyddech chi’n ei osod yn yr Amgueddfa Lles? Beth am rannu eich syniadau ar ein tudalennau Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth.  a’n helpu ni i ysbrydoli eraill i adennill eu lles!

 

Mae Rachel Byron yn ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl a Lles yn WGU.