AMRYWIWCH Y SGILIAU O FEWN EICH GWEITHLU

Beth allwch chi ei gofio o'ch profiad gwaith neu ddiwrnodau lleoliad gwaith eich hun?

Rwy'n cofio yn glir pa mor allweddol y by fy lleoliadau profiad gwaith fy hun i’m datblygiad personol a phroffesiynol; fy nealltwriaeth a’m parch at waith yn y  ‘byd go iawn’; o gael fy neud i deimlo'n rhan o amgylchedd proffesiynol, pobl yn siarad â mi yn gyfartal a chael eich cynnwys a chael cyfle i ychwanegu gwerth, waeth pa mor fychan ar yr adeg honno, roedd yn werthfawr iawn i mi.

Mae pethau wedi symud ymlaen yn fawr ym myd lleoliadau profiad gwaith dros y blynyddoedd ynghyd a rhaglenni a rhaglenni prentisiaeth ac yn awr yn 2021 ym Mhrifysgol Glyndwr, rydym wedi cyflwyno modiwl newydd sbon sy'n rhan o'r radd meistr ôl-raddedig ryngwladol ym maesydd BusnesPeirianneg a Chyfrifiadureg ar ffurf Lleoliadau Ymarfer Uwch. Bydd y lleoliadau 12 wythnos hyn yn cychwyn o fis Medi ‘21, boed hynny mewn adeilad busnes neu yn rhithwir gan gefnogi gyda phrosiectau, ymchwil neu ddadansoddeg; yn cyfoethogi profiadau ein ôl-raddedigion y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth - rhywbeth sy’n hynod werthfawr ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, nododd Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr ein Prifysgol ein hunain Yr Athro Maria Hinfelaar yr amser pryderus sydd o’u blaenau ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi dechrau eu hastudiaethau pan oedd y byd yn edrych yn wahanol iawn sydd bellach yn wynebu rhagolygon mor ansicr ac aflonyddwch parhaus o ganlyniad i’r pandemig;

“Yng nghanol yr argyfwng hwn, fe raddiodd cenhedlaeth dalentog o ddegau o filoedd o bobl ifanc ynghyd â myfyrwyr aeddfed yn haf 2020 o brifysgolion a lleoedd addysg eraill, yn llawn egni ac uchelgais.
Bydd carfan arall yn dilyn ymhen ychydig fisoedd, a fydd eto wedi gweld aflonyddwch enfawr i’w bywydau. Felly beth ellir ei wneud i harneisio eu potensial ac i sicrhau nad yw ein cymdeithas yn dyst i genhedlaeth goll, wedi'i chreithio gan amgylchiadau nad ydyn nhw wedi'u creu?”

Dyma lle gallwn ni gamu i mewn a chwarae ein rhan yn yr ymdrech adnewyddu ac adfer sydd i ddod. Mae'r Tîm Menter yn adnabyddus am ein hymroddiad a'n brwdfrydedd dros gyfleoedd dysgu a'n cydweithrediad â diwydiant. Ni fu erioed amser pwysicach i'r ddau beth hyn gael eu dwyn ynghyd.

Wrth i ni estyn allan at fusnesau yn yr ardaloedd lleol a'r cyffiniau i bartneru gyda ni ac i gynnig lleoliadau tymor byr i'n myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol, pob un â chyfoeth o sgiliau, gwybodaeth ac yn awyddus i ddysgu, rydym yn gobeithio cryfhau nid yn unig ein perthnas gyda'n cysylltiadau mewn diwydiant a busnes ond hefyd helpu i feithrin diwylliant o fewn gweithleoedd presennol a all fod angen rhywfaint o amrywiaeth yn y sgiliau o fewn y gweithlu ac archwilio'r darlun ehangach o gyfle o ran buddion cydweithredu rhwng y diwydiant a'r byd academaidd.

Er bod amrywiaeth yn y gweithle yn cynnig nifer o fuddion gan gynnwys mwy o gynhyrchiant a phroffidioldeb, mae'r timau hyn yn tueddu i berfformio'n well. Trwy wahodd ein graddedigion i'ch busnes byddwch yn agor y posibilrwydd o ffyrdd newydd o ddatrys problemau yn ogystal â meddwl dadansoddol newydd. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gynyddu arloesedd yn eich busnes a'ch pobl, gan sicrhau eich bod yn arwain ar gyfer y dyfodol.

Er gwaethaf y cyfnod ansicr hyn i lawer o fusnesau, rydym yn hyderus y bydd cymryd rhan mewn partneriaeth lleoli Ymarfer Uwch gyd ni yn gam cadarnhaol ac yn gam ymlaen i fusnesau a chwmnïau lleol wrth iddynt hwythau edrych tuag at ddyfodol eu busnesau a'u pobl. Yr hyn sydd hefyd yn ddefnyddiol i wybod ar hyn o bryd yw bod ein myfyrwyr wedi addasu i ddysgu rhithwir yn anhygoel o dda dros y flwyddyn ddiwethaf felly os ydych chi mewn sefyllfa i allu cynnig lleoliad rhithwir yn unig ar yr adeg hon, yna byddwn yn croesawy hynny yn fawr.

Os ydi Lleoliadau Ymarfer Uwch yn rhywbeth yr hoffech chi ei archwilio ymhellach, hoffai ein tîm glywed gennych trwy enterprise@glyndwr.ac.uk 

Am fanylion llawn gweler hefyd Lleoliadau Ymarfer Uwch 

 

Ysgrifennwyd gan Ann Bell, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.