AWGRYMIADAU AR GYFER DATBLYGU'CH PORTFFOLIO

An illustration student working

Pa gyrsiau sydd yn gofyn am bortffolio?

Pa fyddwch yn ceisio ar gyfer cwrs mewn pwnc fel celfyddyd gain, dylunio graffeg, a disgyblaethau ymarferol eraill, mae portffolio yn rhan bwysig iawn o’ch cais. Ymysg y disgyblaethau eraill mae: Animeiddio Cyfrifiadurol, Creu Ffilmiau Digidol a Chynhyrchu Fideo, Rheoli Delweddau Digidol, Ffotograffiaeth Ddigidol, Dylunio Ffasiwn, Celf a Dylunio Gemau, Dylunio Graffig, Dylunio Diwydiannol, Dylunio Mewnol, Celfyddydau’r Cyfryngau ac Animeiddio, Rhaglennu Gweledol a Gemau, Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, Dylunio Gwefannau a Chyfathrebu Rhyngweithiol, Dylunio Gwefannau a’r Cyfryngau Rhyngweithiol.

Beth yw portffolio?

Casgliad o’ch gwaith yw portffolio, neu ‘ddyddiadur gweledol’, sydd yn dangos sut mae eich sgiliau a’ch syniadau wedi datblygu dros amser.

Pam fod angen portffolio arna i?

Mae eich portffolio yn ein helpu i asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y cwrs o’ch dewis. Mae’n dangos eich gallu i weithio gyda gwahanol ddeunyddiau a themâu a dethol eich darnau mwyaf llwyddiannus. Mae’n dangos tystiolaeth o sgiliau, gallu technegol a chreadigol, hunan-gymhelliant a’r gallu i feddwl yn annibynnol - gwaith sydd efallai yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd yn y briff ar gyfer y prosiect - rhywbeth wnaeth ichi fod eisiau gwneud mwy, mynd allan gyda chamera neu lyfr braslunio a dilyn eich trwyn. Gall gwaith 3-D fod yn beth anodd ei gario, ond os medrwch chi - dewch â nhw gyda chi - os nad, dewch â ffotograffau neu efallai fideo ar eich ffôn.

Beth ddylwn i gynnwys yn fy mhortffolio?

Darnau gorffenedig a rhai heb eu gorffen; llyfrau braslunio; nodiadau a syniadau; darlunio arsylwadol; gall ymchwil gweledol am ystod o bynciau ac enghreifftiau o ysgrifennu hefyd fod yn ddefnyddiol. Byddai’n dda hefyd gweld pethau fel arbrofion gyda gwahanol gyfryngau, deunyddiau, prosesau, offer a thechnegau, gwaith datblygu, sgrîn-ddaliadau, dalennau cyswllt a dogfennaeth. Fe all ymddangos yn od, ond rydym yn hapus i weld unrhyw waith a fethodd am fod y rhain yn aml yn cael eu hanwybyddu, ond gall gwallau fod yn wybodaeth ddefnyddiol ac yn rhan o broses iteraidd - maent yn gallu bod yn gynhyrchiol ac yn allwedd i’ch proses ddysgu greadigol. Mae gwaith nad ydych yn fodlon arno yn rhoi mewnwelediad defnyddiol i’ch ffordd greadigol o feddwl, a dyma pam yr hoffem ei weld. Mae’n ddefnyddiol gallu gweld gwaith dan arweiniad tiwtor a’ch gwaith personol (a hyd yn oed preifat).

A gaf i ddod ag enghreifftiau ymchwil gyda mi i siarad amdanyn nhw?

Mae gennym ni ddiddordeb yn yr hyn sydd o ddiddordeb i chi! Felly dewch ag enghreifftiau o’r math o gelf, cyfryngau, pensaernïaeth a gwaith dylunio cyfoes yr ydych yn edrych arnynt, yn ogystal ag enghreifftiau hanesyddol - byddai’r rhain yn awgrymiadau defnyddiol i ddechrau sgwrs felly dewch â rhywfaint o enghreifftiau o hynny yn eich ffolder neu eich llyfrau nodiadau/llyfrau braslunio neu ffeiliau. Weithiau gall ein meddyliau fynd yn wag pan fo rhywun yn gofyn ichi enwi eich “hoff arlunydd”! Felly, mae’n bosib yr hoffech chi atgoffa eich hun pwy yw’r arlunwyr, dylunwyr ac ati sydd yn mynd â’ch bryd.

Sut ddylwn i gyflwyno fy mhortffolio?

Cofiwch fod gofynion mynediad, gan gynnwys portffolios, yn wahanol ar gyfer pob cwrs. Gwiriwch yr adran ar dudalen we'r cwrs o’ch dewis am ragor o wybodaeth, neu cysylltwch â ni.

Sut ydw i’n cyflwyno fy mhortffolio?

Dim ond gofyn ichi ddod ag ef gyda chi mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol – boed hynny’n ffisegol neu mewn ffolder digidol, mae o i fyny i chi, ac mae llawer erbyn hyn wedi mabwysiadu ymagwedd gyfunol – rhywfaint o waith diriaethol a rhywfaint o waith sydd wedi ei gynhyrchu neu ei atgynhyrchu’n ddigidol.

A oes angen gwahanol bortffolios ar gyfer gwahanol lefelau o astudiaeth?

Mae’r gofynion portffolio yn wahanol ar gyfer lefelau astudio cyn-radd, israddedig ac ôl-radd, felly mae’n syniad da eich bod yn cysylltu â’r tîm academaidd bob tro am wybodaeth ynglŷn â hyn - mewn sawl ffordd, mae’r adolygiad portffolio wedi dod yn rhan allweddol o’r broses dderbyn am ei fod yn bwynt dysgu ac nid ‘prawf’ yn unig.

Beth os nad oes gen i bortffolio?

Peidiwch â phoeni! Cysylltwch â ni ac mi fedrwn ni drafod y peth.

Unrhyw gyngor ychwanegol? 

Byddwch yn chi’ch hun a mwynhewch y sgwrs gyda ni - dydyn ni ddim yn cynnal cyfweliadau ‘straen’!

(Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cwrs o’ch dewis am unrhyw ofynion mynediad ac unrhyw wybodaeth ychwanegol).

GWYLIWCH: Awgrymiadau ar gyfer datblygu'ch portffolio gyda'r Athro Alec Shepley, Deon y Gyfadran Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

(cliciwch cc ar gyfer isdeitlau Cymraeg)

Cysylltwch

Mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddog Ymgysylltu a Chydlynu Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Alice James am wybodaeth bellach.

 

Ysgrifennwyd gan Hannah Lea, Swyddog Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.