BETH ALL ARLOESEDD OLYGU I'CH BUSNES?

Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Ydych chi wedi troi at Google erioed i weld beth ydi ystyr ‘Arloesi’ mewn gwirionedd? Efallai bydd yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i chi yn eich arwain i gwestiynu a ydi hi yn bosib hyd yn oed, i ddiffinio ei ystyr; o ystyried ei ystod eang o bosibilrwydd a photensial. 

Yn nhermau busnes, efallai y byddwch chi'n dewis edrych 'Arloesi' yn symlach; fel proses o greu neu ddatblygu a gweithredu cynnyrch, fel proses neu wasanaeth newydd gyda'r nod o wella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd neu sicrhau mantais gystadleuol. Ond pa mor bwysig ydi Arloesi? Ydi bod yn arloesol yn gofyn am fod yn greadigol? Sut mae rhywun yn ysbrydoli arloesedd ac yn ei feithrin? Ydi o'n rhywbeth sy'n dod yn naturiol? Oes angen annog a gwthio arloesedd? 

Fe hoffen ni symlhau rhai o'r rhwystrau y byddwch o bosib yn eu gwynebu wrth edrych at beth all arloesi ei olygu i'ch busnes, ac edrych ar sut y gallem ni fel tim eich helpu i archwilio sut y gall eich busnes elwa o wneud arloesedd yn fwy o flaenoriaeth; er mwyn tyfu eich busnes ac aros yn gystadleuol yn eich sector. 

Ydi Arloesedd yn rywbeth o werth?

Mae busnesau sy'n arloesi yn gallu tyfu'n gyflymach gan aros yn gystadleuol os nad yn llwyddo i gymryd fwy o gyfran y farchnad, waeth beth yw maint y busnes. Gall busnesau sy'n blaenoriaethu arloesedd gyflawni nid yn unig twf busnes ond hefyd cynyddu cynhyrchiant a buddioldeb a sefyll siawns well o lawer o oroesi, sydd yn yr amseroedd digynsail hyn yn hanfodol.

Ydi Arloesedd yn ddrud? 

Efallai eich bod yn pendroni sutyn y byd y gall eich busnes fforddio gwariant arian ac adnoddau i arloesi yn yr amseroedd economaidd anodd hyn. Byddwch yn falch o glywed fod yna LAWER y gellir ei gyflawni gydag ychydig iawn (weithiau ddim) cost yn gysylltiedig. Trwy dynnu ar fewnbwn a syniadau gan eich pobl eich hunain; gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr, gallwch gadw'r sgwrs i lifo fel cyfle i archwilio a rhannu syniadau newydd. Gall sesiynau I drafod syniadau rhithwir neu awgrymiadau drwy fewnrwyd eich galluogi i werthuso a dewis y syniadau gorau i'w harchwilio a gyda'r syniadau hynny, edrych fewn i cydweithredu a phartneru gyda thîm fel ein tim ni sydd ag arbenigedd academaidd a chymorth ariannol ar waith i'ch helpu chi i droi'r syniadau hynny yn realiti ac yn fentrau buddiol. 

Sut mae mesur Arloesedd?

 Mae arloesi, heb amheuaeth, yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y cwmni gyfan; sydd ar adeg fel hyn, yn hanfodol ac yn rhoi rheswm i weithwyr ofalu a'ch helpu chi i dyfu'ch busnes. Trwy rymuso'ch pobl rydych chi'n cynyddu cynhyrchiant a buddioldeb cyffredinol eich busnes. Mae tystiolaeth yn dangos bod cwmnïau sy'n gweithredu arloesedd yn debygol o oroesi yn hirach, sydd unwaith eto ar yr adeg ansicr fel hyn yn rhywbeth na ddylid ei anwybyddu. 

Oes gennych ddiddordeb mewn gwybod am ein cynllun talebau KT a sut gallwn ni weithio gyda chi i archwilio arloesedd yn eich busnes?

Mae talebau hyd at £2,500 ar gael i fusnesau weithio gyda staff academaidd Glyndwr; mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar lwyddiant ein prosiect Hwb Trosglwyddo Gwybodaeth Gogledd Cymru y llynedd, a gynorthwyodd gwmnïau lleol i ddatblygu cynnyrch newydd, profi cynnyrch, datblygu prosesau ac adroddiadau technegol ar ddatblygiadau 'o'r radd flaenaf'. Y talebau KT sy'n ffurfio'r gris cyntaf ar ein 'Ysgol Arloesi' a gallant eich cyflwyno i becyn dros dro i rhywbeth fwy tymor hir (tri mis i dair blynedd) o gymorth arloesi wedi'i deilwra i'ch anghenion. Os ydych chi'n credu bod yna faes yn eich busnes a fyddai'n elwa o rywfaint o arbenigedd yn y Brifysgol, neu os oes mater y byddech chi'n croesawu rhywfaint o gyngor allanol arno, cysylltwch â ni.

Am wybodaeth pellach. Cysylltwch gyda Peter Hooper ein Rheolwr Arloesi drwy enterprise@glyndwr.ac.uk