BLOG DARLITHYDD: MIS HANES LEOL

World Heritage Site, Pontcysyllte aqueduct

Pwysigrwydd Hanes Lleol a Chymunedol

Mae poblogrwydd rhaglenni fel Who Do You Think You Are? ac yn fwy diweddar, A House Through Time, yn dangos y diddordeb mawr sydd gennym mewn canfod ein gwreiddiau a gweld sut roedd ein cyndeidiau’n fyw.

Mae hanes lleol a chymunedol wedi dod yn weithgaredd hamdden - p’un ai ymweld â thai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ymchwilio hanes teulu ar wefannau fel Ancestry neu hyd yn oed cymryd prawf DNA i ddarganfod eich gwreiddiau!

Mae Mis Hanes Lleol a Chymunedol yn adlewyrchu pwysigrwydd academaidd cynyddol y meysydd hyn. Nid yw astudiaethau hanes ym mhrifysgolion bellach yn canolbwyntio ar frenhinoedd, breninesau a phobl ‘pwysig’ y gorffennol, ond hefyd yn ystyried bywydau, diddordebau a phryderon y werin dros y canrifoedd.

Yn ardal Wrecsam, cawn archwilio hap drysor o ffynonellau a thystiolaeth yn ein hamgueddfeydd ac archifdai ardderchog.

Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam - Penley Hospital: The Story of a Polish Community in Wales - yn esiampl wych o sut y gall themâu rhyngwladol cael ei harchwilio yng nghyd-destun hanes lleol.

Enghraifft arall o sut mae pwysigrwydd hanesyddol Wrecsam fel tref marchnad yn cael ei datblygu ar gyfer cynulleidfa newydd Tŷ Pawb, hwb ddiwylliannol ddiweddaraf y dref.

Mae hanes lleol a chymunedol wedi bod yn rhan bwysig o radd Prifysgol Glyndŵr erioed. Gall myfyrwyr torri trwy niwl amser wrth wneud gwaith maes a lleoliadau yn safleoedd rhanbarthol allweddol fel Gwaith Haearn BershamErddig a Phontcysyllte, sydd yn safle treftadaeth ryngwladol UNESCO.

Dyma beth yw hanfod hanes academaidd heddiw - pwnc lle mae gan astudiaeth leol a chymuned rôl i’w chwarae ynghyd â phatrymau ehangach digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.  

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein gradd BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Ddiwylliannol.  

 

Ysgrifennwyd gan Dr Kathryn Ellis a Peter Bolton, darlithwyr sy'n dysgu modiwlau mewn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.