Boris Johnson yn ymddiswyddo: Y dyluniad tu ôl i ddarllenfa 10 Stryd Downing

10 downing street sign on wall

Mae’n debyg na chafodd y rhan fwyaf o bobl yr un meddyliau ag y cefais i pan roddodd y Prif Weinidog ei araith ymddiswyddo wythnos diwethaf. Fel gyda llawer o bethau rwy’n rhyngweithio â nhw, yn eu cyffwrdd, eu gweld a’u profi, mae fy meddwl yn aml yn tueddu i grwydro a meddwl a sut byddai modd eu gwella, neu o leiaf, sut cawsant eu dylunio a’u gwneud, ac allan o beth maen nhw wedi eu gwneud.

Yn y blog yma, mi fydda i’n trafod rhai o’r pethau y gallai’r dylunydd a’r gwneuthurwr fod wedi eu hystyried ar gyfer darllenfa Boris Johnson wrth iddo gamu i fynnu i roi ei araith ymddiswyddo. Mi fydda i hefyd yn cysylltu’r meddyliau yma gyda rhai o’r modiwlau rydym ni’n eu dysgu fel rhan o’r radd BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch.

Lliw, Deunydd, Gorffeniad (CMF)

Mae lliw, deunydd a gorffeniad (CMF) cynnyrch yn bwysig am fod cysylltiad rhwng y cynnyrch gorffenedig a sut mae’n gwneud inni deimlo. Mae CMF yn newid yn barhaus ac yn symud gyda thueddiadau. Mae’n ymwneud â’n synhwyrau, o pan rydym yn arogli deunydd, yn cyffwrdd cynnyrch a phrofi gwead y defnydd a ddefnyddiwyd. Mae cysylltiad annatod rhyngddo a’n hemosiynau dynol.

Mae gwleidyddiaeth a 10 Stryd Downing yn disgleirio gyda phŵer ac arian, felly mi fyddai’r dylunydd ar gyfer y ddarllenfa mwy na thebyg wedi asesu pa fath o bren a pha orffeniad pren fyddai’n gwneud i’r gwyliwr deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus gyda beth fyddai siaradwr tu ôl i’r cynnyrch yn ei ddweud.

Mae’n debyg na wnaethom ni sylweddoli ein bod yn profi’r emosiynau yma, ond dychmygwch y Prif Weinidog yn rhoi araith ar ddarllenfa blastig rad, mae’n rhywbeth y byddem ni’n sylwi arno a byddai hyn yn gwneud inni brofi teimladau gwahanol. Mae’n bwysig ei fod hefyd yn gallu gwrthsefyll UV o’r haul a hyd yn oed rhywfaint o law. Gyda hyn mewn golwg, mae dethol y deunyddiau a’r gorffeniad cywir o’r pwysigrwydd mwyaf, er mwyn sicrhau ei bod yn edrych yn broffesiynol pan fo’r Prif Weinidog yn sefyll y tu ôl iddi. Mae’r rhain i gyd yn bethau yr ydym yn eu harchwilio fel rhan o’r Modiwl Dylunio Cysyniad.

Sut cafodd ei gwneud – Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu (DFM)

Mae’n debyg nad oedd cost ac amser ar frig yr agenda wrth ddylunio’r ddarllenfa, ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ddylunwyr eu hystyried wrth gynhyrchu rhywbeth i’w weithgynhyrchu.

Sut fydd o’n cael ei wneud? Ble fydd o’n cael ei wneud? Sut fydd o’n cael ei gyfosod a chan beth (gan berson neu beiriant)? Faint o amser fydd o’n cymryd? Mae’r holl bethau yma’n bwysig ac yn effeithio ar yr amserlen i lansio cynnyrch yn ogystal â faint bydd yn ei gostio i’w wneud.

Bydd bod yn effeithiol yn sicrhau canlyniad cadarnhaol ar eich elw cyffredinol, yn ogystal â lleihau cyfraddau sgrap. Rydym yn dysgu am yr holl bethau yma fel rhan o’r modiwl Prototeipiau a Chynhyrchu.

Cynaliadwyedd

Mae darllenfa yn gynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio mwy nag unwaith a bydd yn para blynyddoedd. Felly, mae’n bosib na fyddai cynaliadwyedd yn ystyriaeth rhy uchel, fodd bynnag, nid dim ond beth sy’n digwydd i gynnyrch ar ôl ei gyfnod dylunio sydd o bwys, mae’n rhaid inni ystyried o ble daw’r deunyddiau i gynhyrchu’r cynnyrch. Mae’r holl bethau yma yn bethau rydym yn eu hystyried fel rhan o’r modiwl Dylunio Cynaliadwy.

Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn hynod bwysig wrth ddylunio cynnyrch fel darllenfa'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, mae’n rhaid inni sicrhau bod y ddarllenfa ar yr uchder iawn ar gyfer y defnyddiwr, ac yn ddelfrydol bod modd ei haddasu fel bod pobl o wahanol uchder yn gallu ei ddefnyddio hi ar adegau eraill.

Mae rhaid inni hefyd ystyried elfennau eraill megis porthiant electronig a goleuo, sut mae’r rhain wedi eu cyfeirio drwy’r ddarllenfa fel nad oes modd eu gweld a sut fydd logo neu arwydd brand y cwmni yn cael ei arddangos ar y blaen.

Yn olaf, rhywbeth a fydd yn cyd-fynd gyda’r DFM yw sut fydd y ddarllenfa yn cael ei rhoi at ei gilydd? Rydym ni gyd yn gyfarwydd â rhwystredigaeth pecynnau fflat, felly mae’n beth da ystyried y ffyrdd o roi at ei gilydd a dadosod. Rydym yn trafod y pethau yma fel rhan o’r modiwl Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Pam Astudio Dylunio Cynnyrch yn PGW?

Bydd astudio gradd Dylunio Cynnyrch yn PGW yn eich helpu i adeiladu sgiliau mewn meysydd fel lluniadu, CAD, datblygu, a chreu prototeipiau a dyluniadau ar gyfer busnes. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn ddylunydd cynnyrch proffesiynol.

Cymrwch y cam nesaf; archwiliwch ein cyrsiau israddedig i ddod o hyd i’r un i chi. Neu, beth am archebu lle ar un o’n cyrsiau byr i gael blas i’ch helpu i ddatblygu ymhellach, yn broffesiynol a phroffesiynol. Gallwch hefyd ddod ar ymweliad diwrnod agored i ddysgu mwy am ein cyrsiau ac am fywyd myfyrwyr yn PGW.


Ysgrifennwyd gan Daniel Knox, Darlithydd Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.