Brechlyn Covid 19: Atebwyd Cwestiynau

A woman getting a vaccine

Ar 8fed Rhagfyr 2020, Margaret Keenan oedd y person cyntaf yn y byd i dderbyn brechlyn Pfizer Covid-19. Pum mis yn ddiweddarach, mae tros 33 miliwn o bobl ar draws y DU wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn a thros 13 miliwn wedi derbyn yr ail ddos (Gov.UK).

Mae’r map trywydd allan o’r cyfnod clo wedi rhoi llygedyn o olau inni am ddyddiau gwell i ddod, ac eto mae’r frwydr yn erbyn Covid-19 yn parhau i fod mor fyw ag erioed. Mae trafodaethau eang ar fynd am yr amrywiadau posibl i’r feirws a’r pryderon ynghylch pa mor effeithiol y gallai’r rhain fod yn erbyn y brechlyn ai peidio. Fe wnaethom ni ofyn i’r Athro Neil Pickes, Deon Cysylltiol Materion Academaidd ynglŷn â’i arbenigedd ar destun mwtaniad feirysol.

Ydy mwtaniadau Covid yn achosi symptomau gwahanol?

Gyda rhai mwtaniadau does dim effaith wahanol o gwbl ac yn wir, mae llawer o fwtaniadau yn ‘dawel’ ac yn achosi dim gwahaniaeth. Fodd bynnag, gall rhai mwtaniadau achosi newidiadau difrifol megis symptomau gwahanol. Mae’n gyffredin iawn i firysau newid i fod yn fwy trosglwyddadwy ond nid o reidrwydd yn fwy niweidiol. I feirws oroesi, rhaid i’r organeb letyol fod yn fyw i’r feirws ddyblygu cyn cael ei drosglwyddo i organeb letyol arall.

Ydy’r brechlyn Covid yn frechlyn byw?

Mae’r brechlynnau ychydig yn wahanol a’r rhain yw’r brechlynnau mRNA cyntaf i ddod ar y farchnad. Yn y DU mae gennym ni dri brechlyn sydd wedi ei cymeradwyo i’w defnyddio:

• Pfizer/BioNTech – mae sail RNA i’r brechlyn yma ac mae’n cynhyrchu gwrthgyrff yn y derbynnydd sydd yn adnabod strwythurau protein sbigyn. Nid yw’n frechlyn byw.

• Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca – mae’r brechlyn yma wedi ei wneud o fersiwn wan o feirws annwyd cyffredin sydd i’w gael mewn tsimpansïaid. Nid yw’n frechlyn byw am mai dim ond cyfran o strwythur y feirws Covid-19 mae’n ei gynnwys. Mae genynnau ar gyfer protein sbigyn coronafeirws wedi eu hymgorffori yn y feirws yma. Wedi ei chwistrellu, mae’r brechlyn yn mynd i mewn i’r celloedd ac mae’r system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff i ymosod ar y strwythur protein sbigyn.

• Modena – Mae hwn yn eithaf tebyg i’r brechlyn Pfizer/BioNTech yn y ffaith nad yw’n fersiwn fyw, ond yn seiliedig ar RNA sydd yn targedu’r glycoprotein sbigyn.

Ni wyddom ni ar y pwynt yma pa mor hir fydd yr amddiffyniad gan y brechlynnau ac mae’n bosib y bydd angen dosau ychwanegol. Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn cael Covid-19 ar ôl cael brechlyn, ond bydd yr haint yn llai difrifol. Mae’r dystiolaeth bellach yn tyfu bod trosglwyddiad yn cael ei leihau yn dilyn brechu.

O ble ddaeth y term Saesneg am frechu, ‘vaccination’?

Mae’r gair ‘vaccination’ yn dod o’r gair Lladin ‘vacca’, sydd yn golygu buwch. Mae hyn oherwydd datblygiad brechu gan Edward Jenner yn y 18fed ganrif, a sylweddolodd bod pobl fu’n agored i frech y fuwch (cowpox) wedi eu hamddiffyn wedyn rhag feirws difrifol y frech wen. Oherwydd perygl y feirws yma, sicrhaodd rhaglen frechu ledled y byd bod y feirws yma wedi ei ddileu erbyn 1979. Dyma’r tro cyntaf i afiechyd gael ei ddileu, ac mae’n un o’r llwyddiannau dynol mwyaf erioed.

A ddylwn i boeni bod gwybodaeth wyddonol yn newid yn aml?

Mae adroddiadau newyddion am Covid-19, y cyfryngau cymdeithasol a sesiynau briffio gan wleidyddion wedi arwain at lawer iawn o wybodaeth a barn. Mae natur newidiol gwybodaeth ac arweiniad gwyddonol wedi arwain at feirniadaeth. Fodd bynnag, mae’n galonogol bod gwyddonwyr yn adolygu syniadau a chyngor wrth i dystiolaeth newydd o ymchwil ddod i’r amlwg. Dyma yw conglfaen ymdrech wyddonol wrth inni geisio deall ac egluro prosesau cymhleth. Mae graddfa’r ymchwil sydd wedi ei gynnal ar Covid-19 tros y flwyddyn ddiwethaf yn syfrdanol. Cyhoeddwyd mwy yna 74,000 o bapurau gwyddonol yn ymwneud â Covid-19, sydd yn llawer mwy nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen. Mae’r gymuned wyddonol wedi dod ynghyd o amgylch yr her hon ac ar draws cymaint o ddisgyblaethau. Llwyddwyd i ddadgodio’r genom SARS-VoV-2 mewn 10 diwrnod ac er bod rhai wedi eu datblygu’n flaenorol, nid oedd yr un cwmni erioed o’r blaen wedi cyflwyno brechlyn mRNA i’r farchnad. Gall llawer un ymfalchïo yn eu cyfraniad at achub bywydau nawr a sut y gallwn ni ddefnyddio’r datblygiadau hyn i’r dyfodol. Yn ddiweddar iawn, mae newyddion calonogol am frechlyn Malaria newydd wedi dod i’r amlwg. Dylem groesawu a disgwyl newid.

Yma yn Glyndŵr, rydym ni newydd lansio ein rhaglen Bsc (Anrh) Biocemeg. Mae gennym ni dîm o staff profiadol iawn, sydd yn ymchwil weithredol ac sydd, pob un, yn meddu ar raddau doethur, a fydd yn eich arwain chi drwy radd mewn gwyddoniaeth. Gyda chyfuniad o waith ymarferol a gwaith labordy a chyfoeth o sgiliau a gwybodaeth safon diwydiant a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth, mae Prifysgol Glyndŵr yn alluogydd gwych i yrfa yn y sector gwyddoniaeth yn y dyfodol.

 

Ffynonellau gwybodaeth

Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – adran Coronafeirws

Blog Iechyd Cyhoeddus Lloegr – Coronafeirws – yr hyn sydd angen ichi wybod

Canolfan rheoli clefydau (CDC) – mynegai Covid 19

Data’r llywodraeth ar frechiadau Coronafeirws yn y DU

Gwefan y GIG yn esbonio’r brechlynnau

Gwefan prosiect gwybodaeth brechlyn Prifysgol Rhydychen