CRYPTO-ARIAN - ARIAN Y DYFODOL NEU SGAM?

Crypto-arian - arian y dyfodol neu sgam?

Mae crypto-arian yn arian ddigidol a adeiladir gan ddefnyddio technoleg cryptograffeg sydd yn diogelu trafodion ariannol trwy dechnoleg ‘blockchain’. Nodwedd pwysicaf arian crypto yw nad ydi’n cael ei rheoli gan unrhyw awdurdod canolog h.y banciau neu llywodraethau, ac fe’i helwir yn aml yn ddatganoli. Mae’r sôn am arian crypto mewn datganiadau i’r wasg wedi bod yn fyddarol yn ddiweddar, ond gwybodaeth eithaf cyfyngedig sydd gan y mwyafrif o bobl  - hyd yn oed bancwyr, ymgynghorwyr, gwyddonwyr a datblygwyr rhaglenni blockchain - am cudd-ariannau a’u wir botensial.

Er mwyn wir ddeall cysyniad crypto-arian, mae’n rhaid i wybod am ddyn dirgel o’r enw Satoshi Nakamoto, a ysgrifennodd Bitcoin: A Peer-to-Peer Electric Cash System yn 2008, ychydig ar ôl i ddechreuad yr argyfwng cyllidol byd-eang. Cynlluniwyd y system arian electronig newydd i ddatganoli’r system arian traddodiadol yn sgìl fethiant model ariannol canolog yn 2007.

Blockchain ydi’r dechnoleg allweddol i wireddu’r nod o ddatganoli. Mae’n cynnwys rhestr gynyddol o gofnodion, sef flociau, sydd yn cael eu cysylltu gan gryptograffeg. Gall blockchain cofnodi trafodion rhwng dau barti yn effeithlon ac mewn ffordd wiriadwy a pharhaol heb drydydd parti canolog o dan system cyfriflyfr agored, dosranedig.

Y cwestiwn ydi, a all system cyfriflyfr dosranedig cymryd lle systemau canolog traddodiadol?

Y prif wahaniaethau rhwng system cyfriflyfr dosranedig datganoledig a chanolog yn ymwneud â ffugenwoldeb, rhanadwyedd, argaeledd cyfyngedig a datganoli. Unwaith mae trafodyn arian yn cael ei wneud a’i derbyn, ni ellir ei gwrthdroi; nid oes rhaid enwi’r rhai sydd yn anfon a derbyn y trafodyn; ni all banciau canolog dyroddi crypto-ariannau; maen nhw’n galluogi meicrodrafodion e.e. 1 bitcoin = 100,000,000 satoshi; 1 bitcoin - 13,093.25 USD (10 Gorffennaf 2019).

Ar ôl dim ond ddegawd, mae pris Bitcoin wedi codi o ddim i 13,093.25 o ddoleri hefo cap farchnad dros 233 biliwn o ddoleri ar Orffennaf 10 2019. Am ffigyrau cyfredol os yn darllen ar ôl hyn cliciwch yma.

Mae diffygion yn deillio o nodweddion dywededig y system cyfriflyfr dosranedig agored hon. Dywedodd Carsterns (2018) mai peryg uchel o ddiraddiad, y ffaith na ellir ei gwrthdroi, diffyg ymddiriedaeth, aneffeithlonrwydd uchel yn ymwneud â gofyniad trafodion clir ac anweddolrwydd pris uchel yw wendidau crypto-ariannau, sydd yn cynyddu’r amheuaeth amdani’n disodli arian traddodiadol.

Er bod hi’n edrych yn amhosib y bydd tebygolrwydd bitcoin yn disodli arian traddodiadol fel arian prif ffrwd, mae technolegau newydd fel blockchain wedi cynyddu herion a chyfleoedd i’r sector busnes cyfan h.y yr angen am swyddogaethau newydd mewn sefydliadau ariannol, y gyfraith, rheoliadau a thu hwnt.

Mae rhai cyhoeddiadau (megis DuPoint 2018) wedi honni mai gwir ddefnydd crypto-ariannau  - bron yn gyfan gwbl - yw amrywio portffolio a buddsoddiad hapfasnachol. Yn y cyfamser, defnyddiwyd technoleg blockchain yn logisteg, rheolaeth llywodraethu/proses, yr economi rhannu, rheoli data, masnachu stoc ayyb i leddfu risg weithredol.

Felly, beth yw ein casgliadau ar ôl ymchwilio crypto-arian? Efallai ei fod yn arian digidol, annibynnol diniwed e.e Bitcoin sydd yn hwyluso trafodion. Neu efallai ei fod yn sgam a ddefnyddir i wyngalchu arian, neu efallai’r ddau, neu ddim y naill na'r llall?

Rhywbeth sy’n sicr yw bod fodcoin wir yn sialens i systemau canolog traddodiadol.

Diddordeb mewn busnes? Darganfyddwch fwy am ein ystod eang o gyrsiau yma.

 

Ysgrifennwyd gan Chunmei Guo, darlithydd cyfrifyddu a chyllid ar gyfer modiwlau UG a PG ym mhynciau cyfrifyddu, cyllid ac economeg ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.