CYMRYD GOFAL O'CH IECHYD MEDDWL YN OES Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Collwch bwysau! Mae’n rhaid i’ch breichiau bod fel hyn! Mae’n rhaid ichi gael gwallt llyfn a disglair! Llosgwch fraster am byth! (Cafodd yr un olaf ei ddilyn gan ‘Pryd aethom ni mor bryderus?’ - yr eironi!)

Trwy’r oes fodern, rydym wedi defnyddio pobl eraill meincnod o’n llwyddiant ein hunan, ac un marciwr allweddol yn niwylliant cyfoes yw dymunoldeb cymdeithasol - a ydym ni’n boblogaidd? Ond er roeddem ni ‘n arfer cymharu os oedd ein car yn fwy diweddar na’r un drws nesaf, neu os oedd Commodore 64 gennym yn hytrach na ZX81 ein ffrind, rydym nawr yn mesur llwyddiant yn fwyfwy o ran pryd a gwedd ac nid oes mwy o ffyrdd o gymharu ein hunain â phobl eraill wedi bodoli erioed. P'un ai cloriau cylchgronau yn yr archfarchnad, lluniau ar gyfryngau cymdeithasol neu hysbysfyrddau, mae delweddau sy’n dangos y corf ‘delfrydol’, sut rydym i fod i wisgo, y steiliau fydd yn gadael i bawb wybod ein bod i’n llwyddiannus, neu hysbysebion sydd yn eu gwerthu nhw i ni am bris.

Ond sut mae’r delweddau hyn, sydd i’n hysbrydoli, yn effeithio ar ein lles?

Mae nifer o astudiaethau dros y tair blynedd diwethaf wedi cysylltu edrych ar ddelweddau o gyrff ‘perffaith’ at leihad yn ein delwedd corf. Nid yn unig rydym yn gweld lluniau enwogion sydd â bywydau gallem ni byth gobeithio i’w hefelychu, ond rŵan mae pobl ‘cyffredin’ yn popio fyny ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram yn cynnig i fod yn #fitspiration (ych a fi!), yn arwynebol yn hybu ffordd iach o fyw ond fel arfer maen nhw’n seiliedig ar bryd a gwedd yn y pen draw.

Ac mi all niweidio’n hunan-barch pan nad ydym yn efelychu’r delweddau rheini sydd i’w fod yn ddymunol, derbyniol a ddyheadol.
I ryw raddau, mae pawb yn gwybod bod y pethau sydd yn cael eu postio wedi’u ffiltro a’u golygu’n gyffredinol i nes bod byd o wahaniaeth rhwng y llun gwreiddiol a’r canlyniad terfynol - ac y byddem ni ddim yn adnabod y person yna pe basen ni’n cwrdd â nhw - ond rydym ni dal yn gallu teimlo’n bod ni rywsut wedi methu.

Mae hyd yn oed cyngor sydd i fod yn eich helpu i ‘gofleidio’ch diffygion’ yn ein hatgoffa nad ydym yn cyrraedd y safon benodedig.
Felly sut ydan ni’n torri’r cylch cyn i’n hunan-barch derbyn gormod o gurfa?

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl, sy’n cynnal Wythnos Iechyd Feddwl, yn awgrymu i fod yn fwy ymwybodol o gymharu’ch hun hefo pobl eraill wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac i beidio dilyn pob neu dudalennau sy’n effeithio ar eich hunan-barch - camau sydd yn gallu creu profiad llawer mwy positif.

Ond mae’r delweddau, a’r neges maen nhw’n cyflwyno, bellach wedi treiddio’n bywydau cymaint nes y gallent fod yn anodd ei hosgoi ac er gwaethaf ein bwriadau da, heb sylfaen hunan-barch cadarn mae’n hawdd llithro’n ôl i feddylfryd gymhariaeth. Mewn oes o luniau a dyheadau, rydym yn tueddu anghofio beth yw gwir bwrpas ein cyrff. Efallai, yn lle pendroni pan ‘does gennym gluniau tynn, ‘abs’ fflat, gên gadarn neu beth bynnag, dylen ni feddwl am ein cyrff mewn ffordd wahanol. 


Pa mor aml rydym yn cymryd munud i ryfeddu ar y gwyrthiau mae’r cyfartaledd o 37.2 driliwn o gellau’n gwneud ar ein cyfer ni bob dydd?

Maen nhw’n help i werthfawrogi can yr adar, gweld wynebau ein ffrindiau a theulu, ac yn ein gwarchod rhag perygl. Maen nhw’n cynhyrchu a bwydo babis, dringo mynyddoedd, plymio dyfnhau’r môr, sgrifennu llyfrau, canu caneuon, ac yn dod a llawenydd ennill o ennill gem chwaraeon neu nerfusrwydd a disgwyliad dêt cyntaf i ni.

Pan mae gennym beiriant biolegol sy’n gwneud hyn i gyd, pam ddim gofalu amdano a manteisio arno?

Rhowch iddo’r fitaminau a’r mwynau sydd angen, ewch am dro, symudwch, canwch a chwaraewch. Rhowch iddo ffrindiau a theulu i’w gweld, can adar i’w chlywed, gemau i’w hennill a ddêts i fod yn nerfus amdanynt.
Gadwch iddo ‘sgrifennu cerddi, gwneud lluniau, rhedeg, chwerthin a charu. Gadwch iddo ddysgu ieithoedd, ymweld â llefydd newydd. ‘Sgwn i os byddem yn treulio mwy o amser yn gwneud y mwyaf o’n cyrff a llai ar boeni os ydynt yn gwireddu ryw ddelfryd haniaethol, a fyddem hyd yn oed yn sylwi ar yr hysbysfyrddau, cloriau cylchgronau a postiau wedi’u ffiltro…

 

Ysgrifennwyd gan Justine Mason, darlithydd mewn BSc Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.