DARGANFYDDWCH Y MANNAU PRYDFERTH SYFRDANOL O HARDD SYDD AR EIN STEPEN DDRWS

Mae hi’n Bythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol rhwng Ebrill 4ydd a’r 18fed. Wyddoch chi bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam dim ond taith fer yn y car, ar y trên neu’r bws o lecynnau mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Eryri?

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn 823 milltir sgwâr o gefn gwlad hardd ac amrywiol. Mae’n ardal ble mae pobl yn byw a gweithio, ac yn gartref i 26,000 o bobl – gyda thros eu hanner yn siarad Cymraeg. Mae’n cynnwys Yr Wyddfa (Snowdon yn Saesneg), y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, sydd yn 1,085 o fetrau, a’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid, sydd yn 6km gan 0.8 km.

Ymysg ei threfi a phentrefi hardd mae Betws y Coed, Beddgelert, Dolgellau, Y Bala a Harlech. Mae’n 1.5 awr o daith o Wrecsam i Lanberis ble mae’r llwybr i ben Yr Wyddfa yn dechrau, ac mae trenau rheolaidd yn gadael o Wrecsam i Fetws y Coed (40 milltir i ffwr) a bysys i’r Bala (30 milltir i ffwrdd).

Yn naturiol, mae dringo i gopa’r Wyddfa ar “restr bwced” llawer o bobl, ond fel sawl Parc Cenedlaethol ar draws y byd, ar adegau brig mae llawer gormod o bobl yn heidio draw i Barc Cenedlaethol Eryri ac yn anelu am Yr Wyddfa. Mae hyn yn achosi problemau gyda niferoedd, pobl yn parcio yn anghyfrifol, erydu llwybrau ac ysbwriel. Beth am ystyried rhoi hwb i dwristiaeth gynaliadwy drwy gerdded ar draws nifer o’r lwybrau mynyddig hardd eraill sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, neu ymweld â’r Wyddfa ar adegau llai prysur?

Pontcysyllte

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Yn agosach i’r campws mae gennym ni Safle Treftadaeth y Byd, dim ond wyth milltir i ffwrdd – Traphont Ddŵr a Chamlas syfrdanol Pontcysyllte a adeiladwyd rhwng 1795 ac 1808 gan ddau ffigwr enwog yn natblygiad peirianneg sifil, Thomas Telford a William Jessop.

Mae’r draphont ddŵr wedi ei lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, un o ddim ond pump AHNE yng Nghymru. Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ei lleoli fwy tuag at yr ochr ddeheuol, sydd yn ogystal â’r draphont ddŵr hefyd yn cynnwys Bryniau’r Berwyn, rhosydd Llandegla, Mynydd Rhiwabon a chlogwyni carreg galch anhygoel sgarp Eglwyseg. Ymysg y mannau i ymweld â hwy mae olion Castell Dinas Brân, Piler Eliseg ac Abaty Glyn y Gors, yn ogystal â Chastell y Waun.

Dee Valley

Dyffryn Dyfrdwy

Chirk Castle


Castell y Waun

Does dim prinder mannau trawiadol i’w harchwilio, felly ewch allan i’r awyr agored, gan wneud hynny’n ddiogel, a mwynhewch Bythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol a chofiwch dagio @prifglyndwr mewn unrhyw hun-lun! 

Cyfyngiadau Covid-19: Adeg ysgrifennu, mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu teithio o fewn Cymru o Fawrth 27. Mae’r map trywydd ar gyfer Lloegr yn nodi na fydd teithio yn ailgychwyn tan o leiaf Ebrill 12. Cliciwch i gael y canllaw diweddaraf ar gyfer:

 

Ysgrifennwyd gan Laura Edwards, Swyddog Ymgysylltu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.