DATA SY'N GYRRU MARCHNATA DIGIDOL

Rwyf wedi bod yn lawrlwytho a rhannu data chwilio a cyfryngau cymdeithasol gyda rhai o'm myfyrwyr Marchnata Digidol i godi pwyntiau allweddol am gasglu data.

Fe wnaeth yr ymarfer hwn mewn dosbarth yn gynharach eleni greu darlun byw i ni o un o'r prif wahaniaethau rhwng Google a Facebook o ran sut maen nhw'n casglu data defnyddwyr. Eleni, nid oedd y canlyniadau yn awgrymu'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl.

Darllenwch ymlaen a dysgwch gyda mi a fy myfyrwyr am y gwahanol fathau o ddata a ddefnyddir mewn marchnata digidol a pha un o'r ddau blatfform ar-lein mawr hyn a gafodd y data yn iawn.

Data mewn Marchnata Digidol

Un o'r datblygiadau mwyaf yn y maes ble rwy'n arbenigo ynddi - marchnata, yn enwedig marchnata digidol - dros yr ugain mlynedd diwethaf yw'r cynnydd mewn data. Rwy'n gweld data yn hynod ddiddorol fel pwnc i fyfyrwyr gan ei fod wir yn agor eu llygaid i'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas bob dydd. Mae'n bwnc trosglwyddadwy iawn sy'n caniatáu i fyfyrwyr dynnu ar eu profiadau bywyd go iawn eu hunain.

Mae'r blog hwn yn ffurfio cyflwyniad ysgafn i'r defnydd o ddata wrth farchnata - pam fod busnesau'n casglu data, sut a pham maen nhw'n ei ddefnyddio. Rydw i'n mynd i dynnu ar fy mhrofiad o ddysgu'r pwnc hwn a rhywfaint o fyfyrio personol hefyd.

Marchnata Digidol ar waith

Mae'r blog hwn yn tynnu ar ddau faes o theori marchnata rydw i wedi bod yn eu harchwilio gyda fy myfyrwyr israddedig eleni. Yn gyntaf, y defnydd cynyddol o ddata mewn marchnata digidol i bersonoli profiad y defnyddiwr. Yn ail, sut mae data’n cael ei ddefnyddio i broffilio, neu rannu grwpiau o gwsmeriaid yn ‘dalpiau’. Segmentau o gwsmeriaid sy'n fwy defnyddiol ac sy'n debygol o ymddwyn ac ymateb i gyfathrebiadau marchnata mewn ffyrdd tebyg.

Pam fod busnesau'n casglu ac yn defnyddio data cwsmeriaid?

Pwrpas craidd marchnata yw i ddod yn agos at grwpiau cwsmeriaid, i ddeall eu hanghenion yn well a darparu atebion - cynigion i'r farchnad, sy'n darparu mwy o werth na'r gystadleuaeth. Mae casglu data yn caniatáu inni wneud hyn ar lefel bersonol iawn, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer negeseuon marchnata a wedi'u teilwra yn berthnasol iawn i anghenion cwsmeriaid. Mae pobl yn ymateb yn well i negeseuon, hyrwyddiadau, cyfathrebiadau sydd wedi'u teilwra i'w hanghenion, eu dymuniadau a'u diddordebau.

“Os na allwch chi weld y cynnyrch, chi YW'R cynnyrch”

Mae llwyfannau hysbysebu ar-lein yn defnyddio data i bersonoli profiad y defnyddiwr yn well i gynyddu nifer yr ymwelwyr ac i ymgysylltu â defnyddwyr. Mae hyn i gyd i gynhyrchu refeniw. Mae Facebook yn cynhyrchu refeniw trwy ddeall ei ddefnyddwyr yn well, gwasanaethu cynnwys a hysbysebion perthnasol iddyn nhw a chodi tâl ar hysbysebwyr am y fraint. Mae i'r gwrthwyneb i ddarparwyr cynnwys fel Netflix, Amazon, Spotify a'r tebyg yr ydych chi'n talu amdanynt i ddefnyddio'r cynnwys. Mewn gwirionedd, gallwn ddadlau fod Facebook wedi rhoi’r gorau i fod yn rhwydwaith cymdeithasol flynyddoedd lawer yn ôl pan sylweddolodd nad trwy danysgrifio oedd yr allwedd i werthuso ei gynulleidfa fyd-eang ond drwy hysbysebu. Fe ddaeth yn ddarparwr cynnwys.

Data ar gyfer Personoli

Mae testun craidd fy myfyrwyr yn dadlau bod segmentu proffil yn eithaf cyfyngedig mewn gwirionedd, a bod ymddygiad yn rhagfynegydd mwy cywir. I egluro'r pwynt yma am ragoriaeth segmentu ymddygiadol i'r dosbarth, lawrlwythais gopi o'm data Facebook a Google a'i rannu gyda nhw.

Mae Facebook a Google yn casglu data ar eu defnyddwyr i ddarparu cynnwys a hysbysebu sydd wedi'i anelu at eu diddordebau. Mae Facebook a Google yn mynd i'r afael â hyn mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. Mae Facebook yn gwybod fy mhroffil demograffig - fy enw, fy oedran (dyddiad geni adeg cofrestru), galwedigaeth, statws perthynas, lleoliad, fy hoff dimau chwaraeon ac ati. Mae Facebook yn gwybod y wybodaeth hyn oherwydd i mi ei wirfoddoli.

Mae Google ar y llaw arall yn dysgu amdanaf trwy fy ymddygiadau. Mae'n adeiladu proffil ohonof yn seiliedig nid ar bwy ydw i, ond ar yr hyn rwy'n ei wneud - fy ymddygiad ar-lein. Dylwn ddweud, mae Facebook yn gwneud hyn hefyd - ond nid i'r un radd. Roedd fy nata Facebook yn gwybod pa dîm pêl-droed rwy'n ei gefnogi, y ffilmiau rwy'n mwynhau eu gwylio, a cherddoriaeth rwy'n ei hoffi. Roedd yn gwybod fy mod i'n gweithio ym maes marchnata, mewn Addysg Uwch ac yn byw yng Ngogledd Cymru. Heblaw am ffilmiau swashbuckling a cherddoriaeth siop barbwr (na fi chwaith), roeddent yn bethau eithaf arferol.

Roedd fy nata Google ar y llaw arall yn llawer mwy craff.

Mae Google yn dechrau'n dda - mae wedi dyfalu'n deg fy oedran a'm rhyw. Yn ddiddorol, roedd yn meddwl bod fy mhartner yn llawer hŷn nag y mae hi, er mawr boendod iddi. Cofiwch - mae'n dysgu hyn trwy fonitro pethau rwy'n eu gwneud. Nid wyf wedi gwirfoddoli unrhyw ran o'r wybodaeth hon.

Mae'n gwybod trwy fy ymddygiad ar lein fod gen i ddiddordeb mewn busnes, newyddion busnes a fod gen i gath. Hyd yn hyn mae pethau'n ynddangos yn obeithiol.

Roedd yn gwybod fy mod i'n gweithio ym maes marchnata - fel y gwnaeth Facebook. Roedd hefyd yn meddwl fy mod i'n briod - ac wedi cael hyn yn anghywir mewn gwirionedd. Rwy'n byw yn hapus gyda fy mhartner ers blynyddoedd lawer, nid ydym eto wedi priodi.

‌Dyma ble mae pethau'n ymddangos yn ddiddorol. Y nifer o weithiau rwyf wedi rhedeg yr ymarfer hwn rwyf wedi cael fy nghyfarch â hyn;

I'r rhai ohonoch sydd ddim yn f'adnabod, y newid mwyaf yn fy mywyd yn ystod y 12 mis diwethaf yw bod fy mhartner a minnau wedi geni ein plentyn cyntaf yn ystod y cyfnod clo- ein mab Jack. Rydw i wedi dod yn Dad am y tro cyntaf. Mae Google er clod iddo wedi gweithio hyn allan. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld hyn. Mae Google yn meddwl yn hyderus fy mod i'n rhiant i faban 0-1 oed.‌

‌Nawr rwy'n gweld hysbysebion ar draws rwydwaith Google gyfan ar gyfer eitemau sy'n gysylltiedig â babanod - gofal babanod, cludo babanod, teganau babanod.

Yr hyn sydd mor ddiddorol yw, er bod fy mhroffil Facebook yn llawn lluniau o fy mab a'r rhai y mae fy mhartner yn fy tagio ynddyn nhw, ac er mawr foddhad i'm myfyrwyr marchnata - dydi Facebook ddim wedi gweithio allan fy mod i'n dad newydd eto.

Dydi Facebook ddim wedi uno’r dotiau na’r data i greu proffil defnyddiwr cywir ar fy nghyfer. Nid oes un pwnc diddordeb, na diddordeb ad sy'n ymwneud â babanod, plant, magu plant neu bod yn dad a restrir yn fy nata Facebook.

Mae gan Google y data hyn ar y llaw arall. Mae gan Google broffil mwy cywir ohonof yn seiliedig ar fy ymddygiadau. Nid yw'n berffaith - ond mae'n eithaf da. Rwy'n hoffi dychmygu pryd y bydd Facebook yn sywelddoli bydd rhyw fath o seiren yn diffodd mewn uwchgyfrifiadur yng Nghaliffornia pan y bydd yn cysylltu'r dotiau ac yn sylweddoli fy mod i'n Dad. Heb os, byddaf yn darganfod pryd y byddaf yn dechrau gweld hysbysebion Facebook ar gyfer teganau babanod. Rwyf wedi addo rhoi gwybod i'm myfyrwyr pan fyddaf yn gwneud hynny.

Ac i orffen felly...

Gobeithio ichi ddarganfod bod mewnwelediad diddorol i fyd data ym maes marchnata digidol. Gallwch roi cynnig ar yr ymarfer hwn eich hun gartref trwy ymweld â Google Ads Settings

Beth am lawrlwytho a chymharu eich data Facebook a Google - pa un oedd yn fwy cywir tybed?



Os hoffech chi ddysgu mwy am ddata, neu farchnata digidol yn gyffredinol - mae ein cwrs byr ar-lein Hanfodion Marchnata Digidol fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin ac eto ym mis Gorffennaf. Y pwynt mynediad nesaf ar gyfer ein Diploma Marchnata Digidol Proffesiynol yw Medi 2021. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk.

 

Ysgrifennwyd gan Owen Dale, arweinydd rhaglen Marchnata ac ymgynghorydd marchnata siartredig yn Made Easy Group.