Dicter: Mater Iechyd y Cyhoedd Cudd

woman looking angry

Yn 2008 nododd Sefydliad Iechyd Meddwl ddiffyg sylfaenol yn y drafodaeth mewn llenyddiaeth wyddonol oedd yn ymwneud â dicter, gan awgrymu bod hyn yn arwydd nad oedd y mater yn cael ei ystyried i fod yn ‘fater emosiynol sy’n haeddu cysyniad a sylw gwyddonol’. Deng mlynedd yn ddiweddarach, cymharol ychydig a wyddom o’i gymharu â materion fel gorbryder a straen. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod dicter wedi ei adnabod fel un o’n hemosiynau mwyaf pwerus, a bod corff cynyddol o ymchwil yn canfod cysylltiadau cryf gydag afiechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol. 

I garfannau cyffredin o feddylwyr, mae dicter yn gysylltiedig â’n goroesiad, ac fe’i ystyrir yn llesol o ran adnabod perygl/‘cam’/anghyfiawnder, mewn sefyllfaoedd, ac ysgogi gwerithedu. O fewn ‘ystod arferol’, ystyrir dicter fel dim mwy na rhan o’r profiad dynol.  I garfannau eraill o feddylwyr, mae’n emosiwn dinistriol i’w oresgyn, gydag emosiynnau adeiladol fel tosturi yn cael eu hystyried yn ddangosyddion ac ysgogwyr yr un mor bwerus. Fodd bynnag, mae’r garfan o feddylwyr gyntaf yn adnabod yr angen i fynd i’r afael â dicter ‘problemus; dicter a brofir yn aml ac yn ddwys, ac sy’n ymyryd â meddyliau, teimladau, ymddygiad a pherthnasau. 

Mae’n ymddangos bod dicter problemus, ar sail y ddealltwriaeth hon, yn cydfynd â’r meini prawf ar gyfer afiechyd meddwl, fodd bynnag, pur anaml y caiff ei gydnabod felly. Prin iawn felly yw’r data ar pa mor gyffredin ydyw, a phwy o blith y boblogaeth sydd wedi eu heffeithio. Yn wir, fel unigrwydd, mae’n bosib bod dicter yn cael ei ystyried fel mater iechyd y cyhoedd sydd ar y cyfan yn ‘gudd’. Mae deall problem dicter, ac yn enwedig ei fynegiant allanol o ran ymddygiad ymosodol, wedi digwydd gan fwyaf o safbwynt cyfiawnder troseddol. Tra bo dicter yn emosiwn, ac ymosodedd yn fath o ymddygiad, yn aml mae’r ddau yn cael eu cymysgu a’u cyfuno. Mae hyn yn cael ei ddyfynnu fel rheswm pam nad yw dicter sylfaenol, sydd wedi ei ymwreiddio yn cael ei drin fel arfer, tra bod ymddygiad ymosodol yn cael ei gosbi. Mae hon yn thema sydd wedi hadlewyrchu mewn lleoliadau ysgol yn ogystal â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae mynegiant allanol dicter mewn ymddygiad ymosodol, sef y mynegiant a gyfnabyddir amlaf mae’n debyg, yn cuddio cymlethdod yr emosiwn yma. I rai, mae dicter, mewn gwirioinedd, yn cael ei fynegi drwy ymgilio, a diffyg ymateb. Hefyd, mae modd cyfeirio dicter ‘ar i mewn’ yn ogystal ag yn ‘allanol’. Yn y gymdeithas sydd ohoni, mae’n ymddangos bod dicter tuag at yr hunan yn gyffredin, a rhwybeth sy’n peri pryder yw bod ymchwil yn dangos cysylltiadau rhwng dicter wedi ei gyfeirio at yr hunan a hunan-niweidio, iselder ysbryd ac anhwylderau bwyta. 

Ar nodyn cadarnhaol, mae dicter yn emosiwn y mae ‘gwrthwenwynau’ ar ei gyfer ac mae ymchwil wedi ei gynnal ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ymyriaethau a therapïau sefydledig.  Gall datblygu strategaethau cadarnhaol i weithio gyda’r emosiwn hwn, ac yn enwedig dysgu sut i wneud hynny o oedran ifanc, fod o fudd i unigolion eu hunain ac i gymdeithasau’n ehanach, gan arwain at fwy o hapusrwydd a llai o wrthdaro.  

Yn yr oes sydd ohoni, mae’n ymddangos ei bod hi’n hynod bwysig astudio dicter. Yn ôl polau piniwn, canfyddiadau’r cyhoedd yw bod y cyhoedd ym Mhrydain yn tyfu’n fwy dig ac yn fwy ymosodol. Mae ymchwil diweddar hefyd wedi canfod bod straen Covid 19 wedi arwain at fwy o ddicter a gwrthdaro, gan waethygu’r mater ymhellach. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd tystiolaeth o dwf mewn dicter yn y gweithle ac ar y ffyrdd. Hefyd, gan effeithio’n enwedig ar bobl yn eu harddegau, gwelwyd mwy a mwy o fynegiant o ddicter ar-lein - ar lwyfannau gemau cyfrifiadurol a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae cylch gorchwyl ymarferwyr iechyd y cyhoedd yn eang iawn ac yn esblygu’n barhaus. Efallai ei bod hi’n bryd i ddicter problemus symud i fyny’r agenda, o ystyried yr effaith ddinistriol posib ar y bobl hynny sy’n ei brofi, yn ogystal â’r rhai o’u cwmpas.

Hoffech chi wybod mwy am Iechyd y Cyhoedd a Lles? Ymunwch â ni yn un o’n dosbarthiadau meistr sydd ar ddod, cofrestrwch ar gyfer cwrs byr neu archwiliwch ein hystod o gyrsiau israddedig neu ol-raddedig iechyd meddwl a lles.

 

Ysgrifennwyd gan Dr Sharon Wheeler, arweinydd rhaglen BSc (Anrh) Iechyd a Lles y Cyhoedd, ac MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.